Mae traeth Porth Mawr ger Tyddewi wedi hen arfer denu ymwelwyr ers cenedlaethau. Mae’n lleoliad perffaith ar gyfer teithiau diwrnod a gwyliau. Ond yn 2014, pan oedd storm yn hyrddio tonnau enfawr ar y traeth cafodd dirgelwch ei ddatgelu’n gwbl annisgwyl.
Wrth i’r stormydd ostegu dychwelodd pobl i’r traeth a gwnaed sawl darganfyddiad dychrynllyd. Ar safle lle’r oedd syrffwyr a phicnics yn gyffredin, roedd ymwelwyr yn awr yn darganfod esgyrn. Roedd esgyrn yn ymwthio allan o’r twyni; roedd eraill wedi’u gwasgaru ar y traeth ond roeddent i gyd yn awgrymu cyfrinachau a oedd wedi’u claddu’n ddwfn yn y tywod.
Er bod gwybodaeth ar gael eisoes am gapel bychan a oedd wedi’i godi ar y safle ar un adeg a bod rhywfaint o esgyrn a gwrthrychau canoloesol wedi’u darganfod yno cyn i’r stormydd ddadorchuddio llawer mwy o weddillion. Roedd yn amlwg bod y capel a beth bynnag a oedd oddi tano’n haeddu mwy o sylw.
Os hoffech wybod mwy am y darganfyddiadau diddorol hyn gweler y fideo a’r wybodaeth isod. Mae adroddiadau llawn am y gwaith cloddio ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed (DAT) (agor mewn ffenestr newydd).
Mae’r dystiolaeth ysgrifenedig gyntaf am gapel ar y safle’n dyddio o 1603 pan ysgrifennodd yr hynafiaethydd lleol George Owen:
“Heb fod ymhell mae Capel Padrig yn union i’r gorllewin o Dyddewi ac wedi’i godi mor agos at ei wlad, sef Iwerddon, â phosibl. Mae’n adfail llwyr erbyn hyn.”
Ond dros amser, wrth i’r tywod gael ei chwythu dros y safle, diflannodd adfail yr hen gapel o’r golwg – ac o’r cof.
Datgelodd gwaith cloddio yn 1924 waliau cerrig y capel ac yna darganfuwyd pum ysgerbwd wrth gloddio yn y 1970au, roedd rhai ohonynt mewn cistfeddau, sef blychau carreg tebyg i arch.
Ond yn dilyn stormydd 2014, cychwynnodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, mewn partneriaeth â Phrifysgol Sheffield, ar y gwaith cloddio mwyaf manwl ar y safle hyd yma. Roeddent yn gwybod bod y capel a’r claddedigaethau’n aros amdanynt, ond byddai’r hyn a fyddai wedi’i ddadorchuddio erbyn y diwedd yn gwneud safle Capel Sant Padrig yn un o ddarganfyddiadau archeolegol pwysicaf Cymru.
Dychwelodd y tîm yn 2019 ac yn 2021 gyda chyllid gan y prosiect Ancient Connections, i wneud gwaith cloddio manwl. Datgelodd y cloddio tri cham hanes a oedd yn ymestyn yn ôl dros gyfnod o tua 450 o flynyddoedd – o OC 750 i OC 1,200.
Cyfrinachau wedi’u claddu o dan y tywod
Yn y lefelau uchaf un o’r pethau cyntaf a ddaeth i’r amlwg oedd gweddillion capel a adeiladwyd o garreg, Capel Sant Padrig, a adeiladwyd fwy na thebyg yn yr unfed ganrif ar ddeg. Un o’r darganfyddiadau diddorol ar y safle, a oedd ychydig y tu allan i’r capel ei hun, oedd pin bychan o efydd, a wnaed yn Nulyn yn yr unfed ganrif ar ddeg.
Nid y capel, fodd bynnag, oedd diwedd y stori. Roedd wedi’i adeiladu ar ben mynwent, man lle’r oedd cyrff wedi bod yn cael eu claddu am gyfnod o tua 300 mlynedd.
Tua diwedd yr wythfed ganrif cafodd mynwent ei chreu. Adeiladwyd wal sylweddol a oedd yn amgylchynu’r fynwent. Roedd y beddau cynharaf yn rhai syml, yn wynebu’r dwyrain-gorllewin ac a oedd yn cynnwys babanod a ffetysau’n unig. Parhaodd y tywod i grynhoi dros y safle drwy gydol yr wythfed a’r nawfed ganrif, gyda haen ar ôl haen o feddau’n cael eu hagor yno.
Roedd claddedigaethau diweddarach yn cynnwys oedolion a phlant. Roedd rhai ohonynt yn anarferol. Wrth i’r tywod bentyrru, bu claddedigaethau newydd ar ben y beddau hŷn, a chafodd rhai o’r ysgerbydau hŷn eu dadleoli.
Erbyn diwedd y nawfed ganrif dim ond brig wal y fynwent a oedd yn y golwg ac roedd y fynwent ei hun wedi ymestyn y tu hwnt i’w therfynau gwreiddiol, a dechreuodd y cistfeddau ymddangos.
Ar rai o’r rhain roedd croesau wedi’u crafu’n ysgafn ar y cerrig lintel. Mewn un roedd carreg groes wedi’i gosod wrth ben plentyn bach. Roedd cerrig cwarts neu gregyn llygad maharen wedi’u gosod ar rai o’r beddau mwy diweddar a fyddai wedi bod yn amlwg i ymwelwyr â’r safle.
O dan y beddau cynharaf, cafodd yr adeiladwaith cynharach ei ddatgelu. Wedi’i gladdu’n ddwfn yn y tywod darganfuwyd lloc hirgrwn gydag adeiladwaith canolog, petryal. Y tu allan i’r lloc roedd tystiolaeth bod crefftau’n cael eu cynhyrchu yno, gyda gwrthrychau o efydd, ambr a rhywfaint o leiniau gwydr o fath sy’n debyg i rai a ddadorchuddiwyd yn Iwerddon.
Datgelodd archwiliadau pellach o’r adeiladwaith petryal farciau wedi’u crafu ar y garreg a hynny ar y cyfan gan ddwylo nad oeddent yn arbennig o fedrus.
Ar un pen, roedd dyluniad o groes Geltaidd gain, ryngweol. Roedd nifer o farciau anarferol ar y garreg ganol, ac yn eu plith roedd ffigwr gyda’i ddwylo wedi’u codi yn yr ystum weddïo ‘orans’.
Wrth ochr y ffigwr hwn roedd patrwm sgwarog a nifer o farciau arbennig ac arysgrif na fu modd ei ddarllen hyd yma. Ar garreg arall roedd croes syml wedi’i chrafu ar ei harwyneb.
Mae’r marciau hyn yn ddiddorol, ond roedd gan y safle gyfrinach arall i’w ddatgelu. Ar un pen o’r adeiladwaith, ar garreg a safai’n unionsyth, canfu’r tîm symbol tebyg o don, cwch ar arysgrif a ddarllenai ‘Donoec’.
Gallai’r llun bychan o’r cwch, gyda sbiral, a all gynrychioli ton gyfeirio at ryw fath o fordaith. Gallai’r enw ‘Donoec’ olygu llanc bonheddig, neu ryfelwr tywyll. Neu mi all gyfeirio at y don ifanc.
Nid oes sicrwydd beth oedd swyddogaeth yr adeilad, er ei fod yn debyg i’r leachta a geir yng ngorllewin Iwerddon. Mae ‘leacht’ yn adeilad bychan a geir ar safleoedd Cristnogol cynnar sydd gan amlaf wedi’u gwneud o gerrig garw, heb forter. Mae’n bosibl eu bod yn nodi lleoliad claddedigaethau, er nad oes claddedigaethau o’r fath ym Mhorth Mawr, neu roedd yn safle ar gyfer gweddïo neu ddefosiwn.
Llawer o ddarganfyddiadau ond cwestiynau heb eu hateb
Roedd hwn yn fan lle’r oedd cyrff yn cael eu claddu ar ben ei gilydd – hyd at 12 haen o gyrff, ond pam fod cymaint o bobl ifanc wedi’u claddu yn y safle?
A oedd y leacht – os mai dyna sydd yma – wedi gwneud y llecyn hwn mor bwysig nes iddo ddatblygu i fod yn lleoliad naturiol ar gyfer mynwent, ac yn ddiweddarach i gapel, a hynny er bod y tywod yn dal i chwythu i mewn?
A pham y gadawyd y capel yn y diwedd – tua’r 1500au cynnar, fwy na thebyg? Pam y gadawyd iddo ddirywio? Pam y gadawyd y safle i’r tywod a oedd yn cael ei chwythu drosto?
Mae’r gwaith a wnaed hyd yma’n dweud llawer wrthym am y bobl a gladdwyd yng Nghapel Sant Padrig. Ond nid dyna ddiwedd y stori.
Mae llawer iawn o waith dadansoddi i’w wneud o hyd, yn enwedig gwaith i archwilio gweddillion dynol y 250 o ysgerbydau a ddarganfuwyd ar y safle. Mae Dr Katie Hemer o Goleg Prifysgol Llundain yn archwilio’r rhain.
Yn ogystal ag edrych ar y gweddillion ffisegol, rydym yn edrych ar y DNA hynafol a hefyd, yr hyn a elwir yn ddadansoddiad isotopig sy’n dweud mwy wrthym am y bobl, eu bywydau a’u diet, o ble y daethant ac, mewn rhai achosion, sut y buont farw.
Felly, mae’r stori’n parhau. Mi angen sawl blwyddyn o waith caled eto nes bydd y prosiect wedi’i gwblhau.