Foel Drygarn

Yn tra-arglwyddiaethu ar y gorwel ychydig i'r gorllewin o Grymych mae Foel Drygarn. Ar ben y bryn serth hwn sy’n cael ei bori gan ddefaid mae brigiadau creigiog, tair carnedd gladdu o’r Oes Efydd, a chaer o’r Oes Haearn gyda mwy na 270 o lwyfannau cytiau!

Aerial image of Foel Drygarn

Wedi’u hadeiladu tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl a’u lleoli reit ar y copa, gellir gweld y carneddau o bell. Mae’n debyg bod yr henebion hyn yn symbol o ddylanwad teulu pwerus neu grŵp o arweinwyr ysbrydol ar y dirwedd.

 

Adeiladwyd y gaer o Oes yr Haearn fwy na mileniwm yn ddiweddarach, tua 2,000 – 2,700 o flynyddoedd yn ôl. Serch hynny, mae’n ymddangos bod ei ddeiliaid wedi deall a pharchu natur gysegredig y carneddau claddu. Fe wnaethant ddewis peidio â thynnu cerrig o’r carneddau i adeiladu eu hamddiffynfeydd. Yn ogystal, fe wnaethant adeiladu wal isel o amgylch y twmpathau claddu, gan eu cadw ar wahân o fywyd beunyddiol y gaer.

 

Amgaewyd y gaer o’r Oes Haearn gan gloddiau uchel a waliau cerrig, gan amddiffyn ei thai crwn a’i hysguboriau storio. Cliciwch yma i weld adluniad 360° o sut y gallai’r porth ar y llethr gogledd-ddwyreiniol fod wedi edrych.

Screenshot of Foel Drygarn viewpoint

Byddai’r fryngaer wedi bod yn fan preswyl i arweinwyr lleol ers cenedlaethau lawer. Roedd pobl oedd yn byw yn y gaer yn nyddu gwlân, yn gwehyddu brethyn ac yn gweithio metel. O fewn y gaer mae’n debyg eu bod yn masnachu, yn cynnal marchnadoedd, ac yn ymgynnull ar gyfer cyfarfodydd, dathliadau a defodau. Roedd cymuned ehangach yr Oes Haearn yn byw yn agos at y tir, yn pori anifeiliaid, yn tyfu cnydau, ac yn hela. Roeddent yn weithwyr coed rhagorol a oedd yn prysgoedio coed derw, ynn a chyll ac yn creu siarcol.

Cloddio ac Arolygon

Gwnaed yr unig gloddiad ar Foel Drygarn gan hynafiaethydd o’r enw Sabine Baring-Gould. Cloddiodd ran o’r gaer ym 1899, gan ddod o hyd i grochenwaith o’r Oes Haearn a Phrydeinaidd-Rufeinig, chwerfannau gwerthyd, meini hogi, breichled siâl, darnau o haearn, lampau olew a gleiniau gwydr. Cedwir y darganfyddiadau hyn yn Amgueddfa Dinbych-y-pysgod.

Defnyddiodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru awyrluniau i gofnodi nodweddion archeolegol Foel Drygarn. Yng ngoleuni isel y gaeaf, gellir gweld cysgodion cannoedd o lwyfannau tai crwn.

Yn fwy diweddar mae LiDAR, dull o sganio’r dirwedd â laser, wedi cael ei ddefnyddio i arolygu Foel Drygarn. Am y tro cyntaf mae gennym fodel digidol 3D manwl iawn o’r bryn. Mae data LiDAR wedi datgelu nodweddion a oedd yn anhysbys yn flaenorol. Mae hefyd yn sail i’r darluniad ail-greu ar frig y dudalen.

 

Gwaith Creadigol gan blant ysgol lleol

Roedd ein prosiect dehongli diweddar yn cynnwys ymweliadau â Foel Drygarn gan ddwy ysgol leol i archwilio’r safle archeolegol pwysig hwn. Dychmygai’r plant sut beth oedd bywyd yn y fryngaer o’r Oes Haearn, a chreu’r gweithiau celf a’r darnau ysgrifenedig hyn mewn ymateb.

 

Diogelu ein treftadaeth

Mae Foel Drygarn yn heneb gofrestredig. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei warchod gan y gyfraith, gan ei gwneud yn anghyfreithlon i darfu ar y safle na’i newid. Mae’r dirwedd ehangach hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Gallwch helpu i ofalu am y safle archeolegol pwysig hwn.

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw aflonyddwch neu ddifrod ar eich ymweliad, riportiwch i Heddlu Dyfed-Powys. Am ragor o wybodaeth am drosedd treftadaeth ewch i Gwarchod Treftadaeth.