Cylchlythyr Blynyddol 2023 Gwarchod Treftadaeth
Gan weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys, Cadw, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sefydlodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Gwarchod Treftadaeth i:
- Godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o safleoedd sydd mewn perygl o droseddau treftadaeth
- Galluogi’r cyhoedd i roi gwybod am droseddau treftadaeth
- Darparu sesiynau hyfforddi ar gydnabod safleoedd treftadaeth a chydnabod troseddau treftadaeth
- Monitro a phatrolio safleoedd sydd mewn perygl o droseddau treftadaeth
- Atgyweirio safleoedd y mae troseddau treftadaeth yn effeithio arnynt.
Nod y cylchlythyr hwn yw darparu crynodeb o weithgareddau a materion sy’n ymwneud â Chynllun Gwarchod Treftadaeth Dyfed-Powys ar gyfer 2023.
Adroddiadau trosedd treftadaeth
Cafodd nifer o ddigwyddiadau trosedd treftadaeth eu riportio, gan gynnwys difrod, fandaliaeth a graffiti, aflonyddwch, llosgi bwriadol, byrgleriaeth, gwaith anawdurdodedig, lladrad, gweithgaredd oddi ar y ffordd, ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Patrolau
Cymerodd nifer o batrolau lle dros ardal Dyfed-Powys, gan gynnwys patrolau dynodedig treftadaeth Heddlu Dyfed-Powys, digwyddiadau Pawennau ar Batrôl, ag ymweliadau i safleoedd wedi ei heffeithio neu mewn perygl o drosedd treftadaeth.
Digwyddiadau cyhoeddus
Mynychodd cydweithwyr Gwarchod Treftadaeth nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys Eisteddfod Yr Urdd, digwyddiadau Gŵyl Archaeoleg, Sioe Sir Benfro, Diwrnod Treftadaeth Bannau Brycheiniog, Diwrnod Archaeoleg Sir Benfro, a Diwrnod Archaeoleg Clwyd-Powys.
Atgyweirio
Cafodd gwaith atgyweirio eu cario allan ar safleoedd oedd wedi ei heffeithio gan drosedd treftadaeth lle bosib. Cofiwch, dyle’r gwaith atgyweirio ond cymryd lle gan bobl hefo’r cymwysterau cywir ac mae caniatâd yn ei lle. Heb y caniatâd cywir mae’n bosib fase’r gwaith atgyweirio yn drosedd.
Cofiwch – Os gwelwch chi rywbeth, rhowch wybod i’ch heddlu lleol, gan ddefnyddio #YmgyrchTreftadaethCymru
I gysylltu â thîm GwarchodTreftadaeth e-bostiwch archaeloeg@arfordirpenfro.org.uk.