Hen Gastell Trefdraeth

Castell Cyntaf Trefdraeth

Sefydlodd yr arglwydd Eingl-Normanaidd William Fitzmartin Drefdraeth ym 1197. Credwn mai ef a adeiladodd gastell cyntaf Trefdraeth wrth lan yr afon. Y cyfan sydd ar ôl heddiw yw rhan o’r cloddiau a’r ffosydd, felly mae’n anodd ei ddychmygu.

Aerial image of Old Castle Newport

Mae ein hadluniad yn seiliedig ar ymchwil i gestyll pren o gyfnod y Normaniaid. Edrychwch ar yr olygfan 360° hon i weld sut y gallai’r tu mewn i Gastell Trefdraeth fod wedi ymddangos.

Screenshot of Old Castle Newport 360 viewpoint

Roedd Trefdraeth yn dref Eingl-Normanaidd a drawsblannwyd, sy’n golygu bod gwladychwyr Eingl-Normanaidd a Ffleminaidd wedi’u dwyn i mewn o fannau eraill. Rhowch eich hun yn eu sefyllfa – ar ôl taith hir dan hwyl a rhwyf, fe’ch cyferchir gan yr olygfa gysurlon o gastell yn sefyll wrth ymyl afon Nanhyfer. Y tu ôl i’r castell, wedi’u gosod mewn patrwm tebyg i grid, mae lleiniau o dir ffrwythlon a elwir yn lleiniau bwrdais. Byddwch yn derbyn un o’r lleiniau hyn i fyw arno, adeiladu tŷ, tyfu bwyd a magu ychydig o anifeiliaid.

Roedd Trefdraeth yn cynnig bywyd gwell i ymsefydlwyr newydd, ond a oedd yn ddiogel? Dengys cofnodion i luoedd Cymru losgi’r dref a’r castell i’r llawr ddwywaith, yn gyntaf yn 1215 ac eto yn 1257. Mae’n debyg i’r castell carreg i fyny’r bryn gael ei adeiladu ar ôl i’r Eingl-Normaniaid adennill rheolaeth o’r ardal.

Datgelwyd tri llain bwrdais yn 1991 pan gloddiodd Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed safle’r ysgol, Ysgol Bro Ingli. Adeiladwyd y tai o bridd, a adnabyddir yn lleol fel clom. Dim ond am gyfnod byr y buont yn sefyll, sy’n golygu eu bod yn ôl pob tebyg wedi’u hildio ar ôl yr ymosodiadau yn 1215 neu 1257. Ond parhaodd y lleiniau bwrdais i gael eu marcio a’u ffermio am rai cannoedd o flynyddoedd.

Gweler gwefan Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed i gael rhagor o wybodaeth am hanes canoloesol Trefdraeth.

 

 

Llinell Amser Gogledd Sir Benfro yn yr Oesoedd Canol

1108     Robert Fitzmartin, arglwydd Eingl-Normanaidd, yn cipio Cantref Cemaes ac yn sefydlu Castell Nanhyfer.

1136     Byddinoedd Cymreig yn ail-gipio Ceredigion ar ôl brwydr Crug Mawr. Mae’n debyg bod Cemaes hefyd yn dod o dan reolaeth y Cymry.

1155      Yr arweinydd Cymreig Rhys ap Gruffudd – neu’r Arglwydd Rhys – yn rheoli llawer o Orllewin Cymru, gan gynnwys Nanhyfer.

1172      Castell Nanhyfer yn dychwelyd i William Fitzmartin (mab Robert) pan brioda Angharad, merch yr Arglwydd Rhys.

1191      Yr Arglwydd Rhys yn cipio Castell Nanhyfer.

1195      Hywel Sais, mab yr Arglwydd Rhys, yn dinistrio Castell Nanhyfer i’w atal rhag dychwelyd i ddwylo Eingl-Normanaidd.

1197     William Fitzmartin yn sefydlu Trefdraeth, yn adeiladu castell, yn gosod lleiniau bwrdais ac yn trawsblannu gwladychwyr.

1215      Llywelyn ap Iorwerth yn ymosod ar ac yn llosgi castell a thref Trefdraeth i’r llawr.

1241      Trefdraeth yn cael ei gadarnhau trwy siarter.

1257     Llywelyn ap Gruffudd yn llosgi castell Casnewydd i’r llawr. Mae’r castell yn cael ei ailadeiladu ar y bryn, allan o gerrig.

 

Diogelu ein Treftadaeth

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw aflonyddwch neu ddifrod ar eich ymweliad, riportiwch i Heddlu Dyfed-Powys. Am ragor o wybodaeth am drosedd treftadaeth ewch i Gwarchod Treftadaeth.