Yma yn Sir Benfro, mae gennym amrywiaeth go iawn o fywyd gwyllt brodorol anhygoel. Yn ogystal â denu twristiaid o bedwar ban byd, mae Sir Benfro hefyd yn llwyddo i ddenu sêr bywyd gwyllt at ein harfordir, gan gynnwys morfilod a siarcod!
Bob blwyddyn, mae sawl rhywogaeth yn teithio i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro o leoliadau mor bell i ffwrdd â’r Caribî, a hyd yn oed yr Antarctig, am resymau penodol iawn.
Caiff y creaduriaid tymhorol hyn eu denu yma gan reddf i oroesi, yn hytrach na rhesymau hamdden neu gymdeithasol, yn wahanol i ni, bobl; am ychydig wythnosau neu fisoedd bob blwyddyn, mae Sir Benfro’n cynnig yr union bethau sydd eu hangen ar rai rhywogaethau, o ran bwyd a chysgod.
O bell ac agos, yn y môr a’r awyr
Fe fydd llawer o’r creaduriaid hyn yn teithio pellteroedd anhygoel trwy’r môr, i gyrraedd ein glannau ni; maen nhw’n cynnwys morloi, heulforgwn, crwbanod y môr, morfilod, dolffiniaid a physgod fel pysgod haul, slefrenni mor a’r morgi glas (aelod o deulu’r siarc).
Ac mae rhywogaethau adar, fel y wennol a’r wennol ddu, yn feistri ar yr awyr ac yn aml yn teithio miloedd o filltiroedd i gyrraedd Arfordir Penfro.