Mae’n anodd credu, yn ystod misoedd hir ac oer y gaeaf, pan nad oes fawr ddim yn tyfu ac arfordir Penfro yn cael ei bwyo gan stormydd gaeafol, bod rhai creaduriaid yn dewis ymweld â Sir Benfro. Yn wir, mae Sir Benfro yn lleoliad poblogaidd i sawl math o aderyn.
Pam mae’r creaduriaid hyn yn dewis treulio’r gaeaf gyda ni? Yr ateb syml yw bod Sir Benfro yn gynhesach na’r llefydd y maen nhw wedi eu gadael ar eu holau. Mae ein hinsawdd forol ni yn cynnig tywydd mwynach, a digon o fwyd. Petai’r adar wedi aros ble’r oedden nhw dros yr haf, efallai y bydden nhw wedi rhewi i farwolaeth neu wedi newynu.
Mae llawer o’r adar sy’n cyrraedd Sir Benfro bob hydref yn rhywogaethau sy’n hapusach mewn cynefinoedd arfordirol, neu lefydd sydd â dyfroedd agored a gweundir llaith. Maen nhw’n cynnwys rhydwyr fel y cornicyll aur a’r gornchwiglen, neu adar gwyllt fel yr hwyaden lygad-aur. Mae bronfreithod fel y sogiar a choch yr adain yn dianc rhag gaeaf caled Rwsia.
Adar sy’n Ymweld o Ddwyrain Ewrop
Pan fydd y gwyntoedd rhewllyd yn taro bryniau a fforestydd Dwyrain Ewrop a Rwsia nid dim ond yr adar mwy o faint sy’n teithio ffordd bell at diroedd cynhesach. Mae adar llai yn teithio’r siwrnai beryglus hon hefyd. Ymhlith yr adar sy’n ymweld â Sir Benfro, mae dau aelod o deulu’r fronfraith, sef coch yr adain a’r sogiar.
Mae coch yr adain yn aderyn bach deniadol. Er ei fod yn llwyd-frown i raddau helaeth, mae ganddo streipen wen nodedig uwchben ei lygad a fflachiau oren ar bob ochr ac o dan ei adenydd. Mae coch yr adain yn cyrraedd yn gynnar yn y gaeaf mewn heidiau mawr. Mae’n symud yn weddol gyflym ac yn hedfan yn hawdd os oes rhywun neu rywbeth yn tarfu arno. Mae’n bwydo ar gaeau agored gan fwyaf, gan chwilio am fwydod ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn, ond mae hefyd yn gwledda ar ffrwythau ac aeron.
Mae’r sogiar ychydig yn fwy na choch yr adain, ac mae ganddo ben llwyd, cefn o frown golau a bron frith olau. Mae yntau hefyd yn ymddangos yn gynnar yn y gaeaf mewn heidiau mawr. Yn aml, gwelir sogieir yn gwledda mewn coed a llwyni, ar ffrwythau ac aeron. Maen nhw’n sgrytian wrth alw, a gellir eu clywed yn galw yn y nos wrth fudo.
Rhywogaethau’r Rhydwyr
Dros y gaeaf, mae’r aber yn Angle a’r gwlypdiroedd fel Castellmartin yn croesawu nifer o rydwyr o rywogaethau gwahanol. Mae’r adar hyn yn mudo yma i chwilio am fwyd ac i gysgodi rhag y gaeaf llym mewn rhannau eraill o’r byd. Ymhlith y rhywogaeth a gofnodwyd, mae’r cornicyll, y cornicyll aur, y goeswerdd, y rhostog a’r gïach.
Ar un adeg, roedd y cornicyll yn aderyn cyffredin ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn cyrraedd mewn heidiau anferth yn ystod y gaeaf, ac yn bwydo mewn aberoedd a dyffrynnoedd afonydd llaith. Roedd heidiau o gannoedd yn gyffredin. Oherwydd arferion draenio modern, dinistriwyd y cynefin sydd ei angen ar yr aderyn hwn, a rhydwyr eraill, i fwydo. Mae’r mwd ym Mae Gorllewin Angle, a’r tir corsiog o amgylch Maes y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghors Castellmartin, yn cynnig yr amodau hyn. Mae yna heidiau mawr yn ymgynnull yno dros y gaeaf.
Mae aderyn bach brown, crwn, sef y gïach, yn byw yn y Deyrnas Unedig trwy gydol y flwyddyn. Ond, dros y gaeaf, mae mwy o adar yn cyrraedd o’r cyfandir. Mae gan y gïach big tenau, hir, y mae’n ei ddefnyddio i brocio’r mwd meddal i chwilio am anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Mae’n aderyn anodd ei weld, am fod ei liwiau’n ei guddio’n dda yn erbyn y glaswelltau a’r brwyn, ond mae’n gwneud sŵn sgrechian main os digwydd i chi darfu arno.
Adar Gwyllt
Wrth i grafangau rhewllyd y gaeaf afael ar draws Ewrop, mae sawl math o hwyaden a gŵydd yn cyrraedd Sir Benfro i chwilio am fwyd a chysgod. Mae’r sir yn ffodus ei bod yn dianc y gwaethaf o dywydd y gaeaf, a phrin y bydd y pyllau a’r llynnoedd yn rhewi.
Un o’r adar prydferthaf i gyrraedd dros y gaeaf yw’r hwyaden lygad-aur. Mae’r aderyn gwrywaidd yn greadur prydferth iawn gyda rhannau uchaf ei gorff yn ddu ac yn sgleinio, a’i fol yn wyn. Mae ganddo gylch gwyn o blu, neu ‘lygad’, ychydig o dan ei lygad. Mae’r hwyaden lygad-aur yn cyrraedd mewn heidiau bach yn ystod y gaeaf, ond mae’n ochelgar iawn pan fydd pobl o gwmpas. Mae’n hwyaden sy’n deifio a gellir ei gweld ar Lynnoedd Bosherston ger Ystagbwll dros fisoedd y gaeaf. Gellir gweld yr adar gwrywaidd yn tipio’u pennau yn ôl.
Adar eraill sy’n ymweld â Llynnoedd Bosherton dros y gaeaf yw’r corhwyad a’r hwyaden gopog. Mae’r adar hyn yn cymysgu gydag adar sydd yma drwy’r flwyddyn fel yr alarch mud, y gotiar, yr hwyaden wyllt a’r iâr ddŵr.