Mae unrhyw ymweliad â chytref adar y môr yn wledd i’r synhwyrau; symudiadau, sain ac arogleuon miloedd o adar yn llenwi’r aer ac yn llenwi silffoedd y clogwyni. Ond yn ystod cyfran helaeth o’r flwyddyn, mae’r un clogwyni a oedd yn fwrlwm o fywyd yn y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf, yn llefydd syndod o wag a thawel.
Mae sawl rhywogaeth o adar y môr yn defnyddio ynysoedd a chlogwyni Arfordir Penfro fel llefydd i fridio; i ddodwy eu hwyau ac i fagu eu rhai bach. Mae’r adar hyn yn treulio mwyafrif eu bywydau ar y môr neu yn yr awyr, ond nid ydynt yn gallu eu datgysylltu eu hunain yn gyfan gwbl oddi wrth y tir, ac mae angen lle sych a diogel i fagu’r genhedlaeth nesaf. Iddyn nhw, mae’r clogwyni serth a’r ynysoedd diarffordd yn lloches rhag ysglyfaethwyr ac yn noddfa rhag fferdod y môr.
Mae rhai o’r adar môr sy’n dewis magu eu rhai bach yn Sir Benfro wedi teithio cryn bellter. Daw pâl Manaw yr holl ffordd o Dde America, tra bod y pâl cyffredin yn dod o Ogledd Affrica neu Ganada. Mae eraill, fel yr heligog a gwalch y penwaig, yn byw ym Môr Iwerddon trwy gydol y flwyddyn, ond yn bridio ar y lan.
Heligogod a Llursod (gweilch y penwaig)
Ymhlith yr adar môr niferus sy’n ymweld â Sir Benfro ac sy’n dod i’r glannau hyn i fridio, mae dau aelod o deulu’r carfil, sef yr heligog a gwalch y penwaig (llurs). Gellir eu gweld yn bridio ar yr ynysoedd oddi ar y lan, fel Sgomer neu Ynys Dewi, ond mae hefyd yn bosib eu gweld yn agos i’r prif dir.
Mae gwalch y penwaig a’r heligog yn edrych ychydig fel pengwin, ac maen nhw’n sefyll yn dalsyth ar silffoedd y clogwyni. Mae’r heligogod o liw brown fel siocled, gyda bol gwyn a phig llym fel dagr. Mae gwalch y penwaig yn aderyn du â bol gwyn. Mae gan walch y penwaig stribed wen ar draws ei big a’i lygaid, sy’n edrych bron fel mwgwd lleidr comedi. Mae’r pig ychydig yn fwy byrdew. Mae’r ddau aderyn yn nythu ar y clogwyni. Mae’n well gan yr heligogod gadw at ei gilydd, gan sefyll ysgwydd yn ysgwydd ar silffoedd mwy cul, tra bod gwalch y penwaig yn hoffi’r holltiadau yn y graig, neu frigiadau ehangach mwy gwastad.
Mae bridio ar ymyl gul yn gallu ymddangos yn beryglus, ond mae wy’r heligog wedi esblygu i fod yn bigfain, fel ei fod yn rholio mewn cylch o’r pwynt, ond nid oddi ar ymyl y clogwyn. Mae gwalch y penwaig a’r heligog, fel llawer o adar y môr, yn codi un cyw, gan fridio o fis Mai i ddechrau mis Gorffennaf. Maent ymhlith yr adar môr cyntaf i fagu plu a hedfan o’r clogwyni, ac maen nhw wedi mynd cyn i’r pâl adael y tyrchfeydd ar gopa’r clogwyni.
Gellir gweld gweilch y penwaig a heligogod o’r prif dir ar hyd arfordir Castellmartin draw at Ystagbwll. Un o’r golygfeydd gorau yw’r olygfa yn Stack Rocks, yn agos at Bont Werdd Cymru. Dyma un o’r safleoedd bridio mwyaf yr heligog yn Ne Cymru. Ar hyd yr arfordir yn Flimston mae gweilch y penwaig a heligogod yn bridio yn ogofau’r môr, ynghyd â’r wylan goesddu, aelod bach o deulu’r wylan.
Palod
Holwch y rhan fwyaf o bobl sy’n ymweld ag Ynys Sgomer beth maen nhw am ei weld, a’r ateb, heb os, fydd y pâl. Mae’r adar hudolus hyn â’u pig o liwiau llachar, yn rhan o’r gytref fwyaf o balod yn Ne Prydain. Bob blwyddyn, mae tua 6,000 ohonynt yn dychwelyd i dreulio’r gwanwyn a’r haf ar Sgomer.
Mae’r pâl yn cyrraedd Sgomer yn hwyr ym mis Mawrth, ond nid ydyw’n setlo ar yr ynys ar unwaith. I ddechrau, mae’n ymgynnull mewn rafftiau yn y mor, fel petai’n magu hyder i lanio ar yr ynys. Ond cyn hir, mae’n dychwelyd at gopa’r clogwyni i fyw unwaith eto yn y tyrchfeydd ble mae’n dodwy un wy a fydd yn deor ym mis Mehefin. Ar ôl hynny, gellir gweld y pâl yn hedfan i mewn i’r ynys, gyda llawn pig o lymrïaid. Yn hwyr ym mis Gorffennaf, mae’r adar yn gadael yr ynys ac yn dychwelyd i fyw yn y môr. Dyma pryd mae pig lliwgar y pâl, sy’n nodweddiadol o’r pâl, yn pylu, cyn cael bywyd newydd unwaith eto’r gwanwyn nesaf.
Mae llawer o bobl yn synnu wrth weld y pâl am y tro cyntaf, am ei fod mor fach, dim ond 30cm o’r pig i’r gynffon. Maen nhw hefyd yn synnu cystal y mae’r adar yn ymlacio o amgylch ymwelwyr sy’n ymweld â’r ynys, gan groesi’r llwybrau i gyrraedd eu tyrchfeydd, a chamu trwy lond lle o draed a choesau. Yr adeg orau i weld y pâl ar Ynys Sgomer yw’r cyfnod rhwng mis Mai a dechrau mis Gorffennaf.
Palod Manaw (adar drycin Manaw)
Mae’n anodd credu bod Ynys Sgomer yn cynnal cytref fridio fwyaf y byd o balod Manaw, cefnder yr albatros crwydrol. Yn sicr, fe fydd unrhyw un sy’n ymweld â Sgomer yn ystod y dydd yn gweld bach iawn o dystiolaeth o’r 120,000 pâr o adar sy’n magu eu rhai bach ar yr ynys.
Fel y pâl, mae pâl Manaw yn nythu mewn tyrchfeydd. Ond, yn wahanol i’r pâl, mae pâl Manaw yn gadael Sgomer ac yn cyrraedd yn y tywyllwch. Dyluniwyd yr adar bach du a gwyn hyn bron yn gyfan gwbl i hedfan, gyda choesau bach sy’n swatio o dan eu cyrff ymhell yn ôl tuag at eu cynffon. Ar y tir, maen nhw’n symud yn drwsgl, ac yn fwyd hwylus i’r gwylanod sy’n byw ar Sgomer. Er mwyn eu hosgoi, mae palod Manaw yn mynd yn ôl at eu tyrchfeydd yn y nos gan alw at eu cymar a’u rhai bach o dan y ddaear. Mae’r alwad hon yn eithaf unigryw, ac unwaith y clywch chi’r gri ni fyddwch yn ei hanghofio.
Mae pâl Manaw yn dychwelyd i Sgomer yn gynnar yn y gwanwyn, ac yn dodwy un wy yn hwyr ym mis Mai. Mae’r cywion bach yn deor ar ôl 51 diwrnod, ac yn cymryd 70 diwrnod arall i fagu plu, un o’r cyfnodau bridio hiraf ymhlith unrhyw un o’r adar môr ar Sgomer. Mae’r cywion yn magu eu plu ym mis Medi a mis Hydref, ond, yn rhyfedd ddigon i aderyn sy’n hedfan i Dde’r Iwerydd, nid yw’r rhieni’n arwain eu cywion. Mae’r oedolion yn gadael Sgomer cyn y rhai bach, gan adael i’r cywion fyw ar y braster sydd ganddynt. Un o ryfeddodau byd natur yw sut mae’r palod bach hyn yn mynd ar siwrnai mor sylweddol.
Am gyfle i weld palod Manaw, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig teithiau cerdded palod Manaw yn ystod yr haf. Mae’r teithiau hyn ar hyd y prif dir yn cynnig golygfeydd o’r adar hŷn yn nythu ac yn bwydo oddi ar y lan. Gweler Coast to Coast am fanylion pellach.