Mae dyfroedd maethlon Arfordir Penfro’n denu toreth o fywyd gwyllt i’r môr, yr arfordir, y clogwyni a’r awyr uwchben, sy’n golygu mai dyma un o’r mannau gorau yn Ewrop ar gyfer bywyd gwyllt morol.
Mae Morloi wrth eu bodd â Sir Benfro! Ceir tua 5,000 o Forloi Llwydion yn y dyfroedd o amgylch Sir Benfro.
Ble a Phryd
Gallwch weld Morloi’n nofio a chwarae yn y dyfroedd o amgylch yr arfordir ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Byddant yn dod i’r lan i fwrw eu blew yn y gaeaf ac ar ddechrau’r gwanwyn, a bydd y benywod yn dod i’r lan i eni eu rhai bach yn ystod yr hydref. Efallai y gwnewch eu gweld â’u rhai bach gwyn fflwffog ar draethau anghysbell o fis Awst i fis Tachwedd.
Mae ynysoedd arfordirol Sgomer a Dewi’n arbennig o boblogaidd gyda’r morloi – caiff rhwng 500 a 700 o rai bach eu geni ar Ynys Dewi bob blwyddyn, sy’n golygu mai dyma’r safle geni morloi llwydion mwyaf yn ne Prydain.
Côd Ymddygiad
Caiff Morloi eu hamddiffyn gan y gyfraith. Rydym yn ffodus i gael rhannu’r ardal arbennig yma â nhw.
O’r tir
- Mae’n well gwylio’r morloi oddi ar lwybr yr arfordir – mae’n ddefnyddiol bod â sbienddrych gyda chi. Cymerwch ofal ar y clogwyni ac yn cadw proffil isel.
- Cadwch draw o’r traethau ble fo morloi bychain
- Gall cŵn darfu’n fawr iawn ar y morloi
- Cadwch mor dawel â phosibl
- Cadwch draw os y sylwch ar arwyddion bod y morloi’n aflonyddu
O’r dŵr
- Dylech osgoi glanio ar draethau geni’r morloi bychain neu ar draethau ble fo morloi’n ymlacio
- Dylech osgoi dod rhwng mam a’i un bach
- Cadwch gyflymder eich cwch yn araf wrth gyrraedd a gadael y lan, a chofiwch sicrhau mai dim ond un cwch sy’n gwylio’r morloi ar y tro
- Cadwch o leiaf 20 metr i ffwrdd, ond yn ddelfrydol cadwch 50 metr i ffwrdd
- Symudwch draw os y sylwch ar unrhyw arwyddion bod y morloi’n aflonyddu
- Peidiwch â cheisio nofio gyda’r morloi na’u cyffwrdd na’u bwydo
Nodiadau
- Os oes morlo bychan ar ei ben ei hun ar draeth, fel arfer mae’n golygu bod ei fam yn y dŵr gerllaw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’n ddigon pell i ffwrdd fel y gall ddod yn ôl at yr un bach pan fydd angen
- Os y gwelwch forlo sy’n dioddef, galwch yr RSPCA ar 0300 1234 999. Ewch i’n dudalen Bywyd Gwyllt sydd yn sownd neu mewn trafferth am fwy o wybodaeth.
Ffeithiau Ffynci
- Ystyr un trosiad o’r enw gwyddonol yw ‘mochyn môr trwyngrwm’.
- Mae Morloi’n dda iawn am blymio. Gallant aros o dan y dŵr am hyd at hanner awr, a gallant blymio i lawr i 70 metr.
- Gall Morloi dreulio 80% o’u hamser o dan y dŵr, a gallant hyd yn oed gysgu yn y dŵr.
- Maent yn defnyddio eu wisgers i deimlo dirgryniadau llwybrau eu hysglyfaeth.
- Pam fod morloi’n nofio mewn dŵr halen? Oherwydd bod dŵr pupur yn gwneud iddyn nhw disian