Cynaliadwyedd

Darganfyddwch sut mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn taclo cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a chodiad yn lefel y môr.

Pan ddynodwyd y Parc Cenedlaethol ym 1952, roedd newid yn yr hinsawdd, codiad yn lefel y môr a materion yn ymwneud â lleihad adnoddau, ymhell o feddyliau mwyafrif y boblogaeth. Ond, mae’r materion hyn wedi dwysau ar lefel fyd-eang a lefel leol.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cydnabod ei bod yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom, gyda’n gilydd, i wrthdroi effeithiau negyddol ein treuliant ni fel pobl.

Felly, mae’r Awdurdod yn gweithio’n galed i roi sylw i’r materion hyn ar lefel leol, i sicrhau bod Parc Cenedlaethol hardd, ond bregus, Arfordir Penfro, yn Barc Cenedlaethol cynaliadwy, y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod.

Waeth a ydych chi’n athro, yn athrawes, yn fyfyriwr, neu, yn syml, yn chwilfrydig, mae’n siŵr y bydd yma rywbeth yma at eich dant chi, fel:

  • Archwiliad o’r materion sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd a chodiad yn lefel y môr, ac esboniad ar eu cyfer
  • Archwiliad o’r ffordd y mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio i reoli adnoddau ac i arbed ynni.

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol