Mae newid yn yr hinsawdd yn broses naturiol. Mae hinsawdd y byd wedi newid droeon dros miliynau o flynyddoedd, gan gynhesu ac oeri’r blaned. Mae’r newid hwn yn un araf iawn, ac, oherwydd hynny, mae’r blaned, a’r bywyd arni, yn gallu addasu.
Ond, mae newid mewn hinsawdd yn y newyddion heddiw am fod cyflymder y newid wedi cynyddu.
Mae newidiadau’n cael eu mesur mewn degawdau a blynyddoedd, nid miliynau o flynyddoedd. Mae’r cyflymder hyn yn bwysig, ac mae gwyddonwyr yn credu mai pobl sy’n gyfrifol amdano.
Sut mae’r busnes ‘hinsawdd’ yma’n gweithio?
Mae hinsawdd y Ddaear yn system ryngweithiol sy’n gynnwys llawer o wahanol gydrannau, ond mae’n cael ei yrru gan yr haul. Mae’n cynhesu’r Ddaear. Caiff y rhan fwyaf o’r gwres yna ei adlewyrchu yn ôl i’r gorfod, ond mae peth ohono’n cael ei ddal gan nwyon yn yr atmosffer ac yn gyrru systemau tywydd y Ddaear. Cynhyrchir y nwyon yn yr atmosffer gan fywyd ar y Ddaear.
Os yw cyfanswm y nwyon yn newid, neu’r cyfuniad o nwyon, yna mae’r hinsawdd yn gallu newid. Mae’n gallu mynd yn fwy oer neu’n fwy cynnes, yn fwy gwlyb neu’n fwy sych. Ac mae newid yn yr hinsawdd yn gallu newid y tywydd yr ydyn ni’n ei gael.
Beth allwn ni ei ddisgwyl yn Sir Benfro?
Nid oes unrhyw un yn gallu dweud beth yn union sy’n mynd i ddigwydd wrth i’r hinsawdd newid, ond dyma rai pethau a allai newid:
- Y tywydd. Os yw’r hinsawdd yn cynhesu, mae’r atmosffer yn gallu dal mwy o ddŵr. Fe allai hyn olygu mwy o law, a mwy o law trwm iawn.
- Tymhorau’n newid. Efallai y bydd gaeafau’n dod yn fwy cynnes a gwlyb, a’r hafau’n fwy gwlyb. Efallai y bydd y gwanwyn yn dechrau mor gynnar â Chwefror.
- Tywydd gwaeth. Efallai y gwelwn ni stormydd cryfach, mwy ffyrnig o’r Iwerydd, nid dim ond yn ystod y gaeaf.
- Bywyd gwyllt. Nid yw creaduriaid yn gallu newid yn gyflym. Efallai na fydd rhai rhywogaethau’n gallu ymdopi gyda thywydd cynhesach. Efallai na fydd creaduriaid eraill sy’n mudo i Sir Benfro yn gallu dod o hyd i unrhyw fwyd pan fyddan nhw’n cyrraedd, ac efallai na fyddan nhw’n gallu magu eu rhai bach.
- Ffermio. Mae hafau gwlyb yn newyddion drwg i gnydau.
- Aberoedd. Fe fydd mwy o stormydd yn golygu y bydd y mwd yn yr aberoedd yn cael ei olchi i ffwrdd, neu efallai y bydd llifogydd yn dod â mwy o fwd i’r aberoedd. Fe fydd hyn yn effeithio ar bobl sy’n defnyddio’r ddyfrffordd neu fywyd gwyllt.
- Twristiaeth. A fydd pobl eisiau ymweld â Sir Benfro os yw’n hafau’n dod yn fwy gwlyb a stormus?
Beth mae hyn yn ei olygu?
Efallai nad yw’r newidiadau hyn yn ymddangos yn rhai pwysig, ond dychmygwch sut allai hyn effeithio ar y man ble rydych chi’n byw. Mae Dinbych-y-pysgod yn gyrchfan boblogaidd yn y Parc Cenedlaethol. A fydd pobl eisiau ymweld os yw’r hafau’n oerach ac yn wlypach. Sut fydd hyn yn effeithio ar westai, meysydd carafannau neu hyd yn oed gwerthwyr hufen iâ?