Rheoli Adnoddau

Rydym bob amser yn ceisio dod o hyd i wahanol ffyrdd o weithio er mwyn i ni ddefnyddio llai o adnoddau​. Mae yna derfyn ar adnoddau’r byd, ac os na feddyliwn ni’n ofalus ynghylch sut yr ydyn ni’n eu defnyddio, mae yna berygl y gallen nhw ddod i ben. Yn yr un ffordd, mae angen i ni feddwl am yr ynni yr ydyn ni’n ei ddefnyddio.

Mae datblygu cynaliadwy yn ymwneud â dyfodol y blaned.

Mae’n ymwneud â thrin ein planed fel petawn ni’n bwriadu aros yma! Mae’n ymwneud â defnyddio ein hadnoddau yn ddoeth, heb eu gwastraffu.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n gweithio’n galed, ynghyd â Pharciau Cenedlaethol eraill y DU, i ostwng yr ynni y mae’n ei ddefnyddio a’r gwastraff y mae’n ei gynhyrchu.

Mae rhai syniadau’n syml, fel annog staff i adael eu ceir gartref a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu seiclo. Mae eraill yn golygu gweithio gyda phobl eraill fel gwasanaeth bysiau’r arfordir.

Bysiau Arfordirol

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bartner ym Mhrosiect Lonydd Glas Sir Benfro, a sefydlwyd i annog trigolion lleol ac ymwelwyr, o bob gallu, i gael mynediad at gefn gwlad ac i’w fwynhau, trwy ddulliau cludiant mwy cynaliadwy fel cerdded, seiclo, bws a thrên.

Cliciwch y ddolen am ragor o wybodaeth am Bysiau Arfordirol.

Oriel Gwyrdd

Canolfan ymwelwyr ac oriel y Parc Cenedlaethol yn Nhyddew yw Oriel y Parc, ac mae wedi ennill gwobrau. Mae’n adeilad penigamp – o’r cynllun a’r ffordd y mae’n edrych, i’r defnyddiau a ddefnyddiwyd i’w lunio, adeiladwyd Oriel y Parc gyda syniadau ynghylch cynaliadwyedd a bod yn ‘wyrdd’ yn flaenllaw yn y meddwl.

Bus picking up passengers on a narrow coastal road

Pencadlys Gwyrdd

Yn 2004, symudodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o Hwlffordd i Bencadlys newydd, sef adeilad wedi ei thrawsnewid, yn Llanion yn Noc Penfro. Mae’r adeilad dros 100 mlwydd oed ac mae o friciau coch. Fe’i adeiladwyd yn wreiddiol fel lle bwyta ar gyfer Swyddogion bataliynau’r fyddin a oedd wedi eu lleoli yma am 60 mlynedd neu fwy. Er bod yr adeilad wedi’i adeiladu’n gryf ac yn gadarn, fel y gwelwch chi o’r llun, fe’i adeiladwyd 100 mlynedd yn ôl pan nad oedd datblygu cynaliadwy yn air cyffredin ar wefusau pobl!

Penderfynwyd ar gam cynnar y byddai’n rhaid ymdrechu’n galed i gynnwys cymaint o nodweddion gwyrdd yn y Pencadlys â phosib o ystyried yr arian a oedd ar gael. Llwyddodd yr Awdurdod i gynnwys y nodweddion gwyrdd hyn yn y gwaith trawsnewid, gan arwain at raddiad Tystysgrif Ynni Arddangos band ‘B’ :

  • Boeler “biomas” sy’n rhedeg ar belenni pren, sydd ddim yn danwydd ffosil, ac sydd felly’n gostwng allbwn carbon deuocsid o ffynonellau carbon anadnewyddadwy.
  • Boeler nwy cyddwyso fel system wrth gefn – dyma’r math mwyaf ynni-effeithlon o foeler nwy sydd ar gael.  Mae ond yn rhedeg pan fydd y boeler biomas ddim yn gweithio.
  • Sicrhawyd lefelau uchel iawn o inswleiddio ar gyfer y waliau trwy leinio pob wal fewnol yn y swyddfeydd yn sych.
  • Nenfydau ffug ar gyfer rhai o ystafelloedd a choridorau’r llawr gwaelod – i ostwng y cyfaint i’w wresogi.
  • Inswleiddio mewnol ychwanegol ar gyfer y to i safonau Sgandinafaidd, er mwyn gostwng y gwres a gollir trwy’r to.
  • Falfiau thermostatig ar bob rheiddiadur er mwyn sicrhau’r tymereddau gorau posib ym mhob ystafell.
  • Paneli haul ar y to, i ddarparu’r holl ddŵr poeth yn yr haf ac i helpu cynhesu dŵr poeth yn y gaeaf.
  • System gasglu dŵr glaw sy’n casglu’r dŵr glaw o’r to i mewn i danciau mawr yn y seler, ac yn ei bwmpio oddi yno i danc arweiniol ac yn ei ddefnyddio i fflysio’r toiledau, gan arbed dŵr o’r prif gyflenwad.
  • Systemau golau awtomatig sydd ond yn dod ymlaen pan fydd rhywun yn dod i mewn i’r ystafell ac yn diffodd yn awtomatig unwaith y bydd wedi bod yn wag am ychydig o funudau.
  • Defnyddio pren o ffynonellau lleol ble’n bosib.
  • Raciau beic at ddefnydd y staff.

Sbwriel

Nid yw’r problemau sy’n gysylltiedig â sbwriel yn unigryw i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, maen nhw’n broblemau yr ydyn ni’n eu hwynebu ar draws y wlad.

Mae staff a gwirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol yn gweithio’n galed i gadw tirwedd Sir Benfro’n lân ac yn rhydd o sbwriel. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda grwpiau partner, fel y Cyngor Sir a grwpiau cymunedol, i gadw’r Parc Cenedlaethol yn lân, a hefyd i hyrwyddo negeseuon sy’n annog pobl i feddwl am y llanast y maen nhw’n ei adael ar eu hôl. Yn bennaf, mae yna dri math o sbwriel sy’n effeithio ar y Parc Cenedlaethol.

  • Sbwriel gan y cyhoedd. Mae’n hawdd meddwl nad yw gadael un darn bach o bapur bwyd yn broblem fawr. Ond buan iawn y bydd un darn bach o sbwriel yn cael cwmni. Mae ymwelwyr yn gadael pob math o wastraff, pecynnau bwyd, hen ddillad, teganau traeth, poteli ayb. ar eu hôl, weithiau’n ddamweiniol ond weithiau’n fwriadol.
  • Sbwriel morol. Dyma ffynhonnell sylweddol iawn ar gyfer sbwriel ar draethau, a’r enghraifft orau i ddangos y broblem hon yw Traeth Frainslake. Mae’r traeth hwn yn ardal y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Ne Sir Benfro, ac nid oes mynediad i’r cyhoedd. Eto, petaech yn sefyll ar dop y traeth gallech fod i fyny at eich pengliniau mewn poteli plastig, poteli llaeth, poteli glanhau ayb. sydd wedi cael eu taflu dros fwrdd llong. Mae’n ffynhonnell sbwriel anodd iawn ei rheoli a’i phlismona gan fod cychod o bedwar ban byd yn pasio heibio arfordir Sir Benfro.
  • Sbwriel gan anifeiliaid. Y gwastraff anifeiliaid sy’n denu’r mwyaf o gwynion yw baw cŵn. Er bod yna lawer o berchnogion cŵn cyfrifol, mae yna lawer mwy sydd ddim yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, hyd yn oed pan fydd bagiau a biniau ar gael.

Mae unrhyw sbwriel yn salw, ac yn aml mae pobl sy’n cael eu holi am eu profiadau yn y Parc Cenedlaethol yn sôn eu bod wedi gweld sbwriel neu faw cŵn, bron fel pe na baent yn disgwyl gweld unrhyw lanast mewn Parc Cenedlaethol. Mae sbwriel yn niweidio bywyd gwyllt. Mae’r ffyn cotwm syml yr ydyn ni’n eu defnyddio i lanhau ein clustiau yn un o’r eitemau gwastraff mwyaf cyffredin ar draethau lleol. Maen nhw’n cael eu golchi i lawr y toiled ac, yn y pendraw, yn cyrraedd yr arfordir, ac yn edrych yn flasus iawn i anifeiliaid ac adar y môr. Ond unwaith fydd y creadur yn eu llyncu, maen nhw’n eu hatal rhag bwydo ac, yn y pendraw, yn eu lladd.

Mae sbwriel yn beryglus i bobl hefyd. Mae gwydr a chaniau metel siarp yn berygl amlwg, ond beth am faw cŵn? Nid yw sefyll mewn baw cŵn yn brofiad neis iawn, ond mae hefyd yn gallu bod yn beryglus i iechyd.

Nid oes un ateb unigol i’r broblem sbwriel. Mae’r Parc Cenedlaethol, a’r grwpiau y mae’n gweithio gyda nhw, yn defnyddio sawl strategaeth. Nid yw’n ddigon i ddarparu biniau, a thimau glanhau. Ac nid yw arwyddion cwrtais a dirwyon yn gweithio ar eu pennau eu hunain. Mae’n rhaid cael neges addysgiadol barhaus, sy’n cael ei hybu ymhlith ymwelwyr, defnyddwyr llongau ac ysgolion lleol, i gefnogi’r pethau hyn. Er, mae’n ymddangos nad yw hyn yn ddigon chwaith.

Fe all y Parc Cenedlaethol wneud popeth posib i annog pobl i dacluso ar eu hôl, a pheidio â gadael sbwriel i ddechrau, ond dim ond newid sylweddol yn agwedd pobl sy’n mynd i ddatrys y broblem hon yn y pendraw.

Sea Empress, which became grounded on mid-channel rocks at St. Ann's Head off the Pembrokeshire Coast on 15 February 1996

Llygredd

Mae Sir Benfro’n enwog fel cyrchfan wyliau, ac mae’n cynnig tirwedd hyfryd, heb ei difetha, i ymlacio ynddi a dianc rhag llymder bywyd modern. Mae’n dibynnu ar y ddelwedd hon er mwyn denu ymwelwyr i’r sir, ac mae’n ceisio gwarchod y dirwedd, a’i chynnal, fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau’r un pleserau. Mae ymwelwyr yn dod ag incwm, sydd yn ei dro’n cefnogi llawer o boblogaeth y sir. O ganlyniad, mae unrhyw gyhoeddusrwydd negyddol yn gallu cael effaith pellgyrhaeddol ar economi’r sir ac ar y Parc Cenedlaethol.

Cafwyd un digwyddiad o’r fath ar 15 Chwefror 1996, pan ddrylliwyd tancer olew’r Sea Empress, ar greigiau oddi ar Benrhyn y Santes Ann, wrth fynedfa Dyfrffordd Aberdaugleddau. Gollyngwyd tua 72,000 tunnell o Olew Crai o Fôr y Gogledd o’r cwch, ar hyd morlin hyfryd Sir Benfro. Eto, cymaint oedd yr ymdrech gan bawb a oedd yn gysylltiedig â’r ymgyrch lanhau, erbyn Pasg 1999 roedd yn anodd i ymwelwyr weld pa ardaloedd yr oedd wedi effeithio arnynt. Serch hynny, mae’r trychineb wedi taflu cysgod hir, ac mae’n bodoli o hyd mewn atgofion yn ddiweddarach. Mae’n atgof fod unrhyw lygredd yn gallu cael effaith ddifrifol ar y Parc Cenedlaethol.

Ers hynny, cydnabuwyd traethau ac arfordir Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro unwaith eto fel rhai o’r gorau yn y Deyrnas Unedig o ran eu harddwch naturiol, eu hamgylchedd glân ac ansawdd eu dyfroedd ymdrochi, gan adeiladu ar y gydnabyddiaeth a gafwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Mae gan nifer o draethau Sir Benfro Baner Las, sef y lefel gydnabyddiaeth uchaf. Mae Traethau Baner Las yn cynnig dŵr ymdrochi o ansawdd uchel, ond hefyd cyfleusterau i bobl ag anableddau, mynediad at ffôn, presenoldeb swyddog/gweithiwr/achubwyr bywyd ar y traeth a hysbysfwrdd cyhoeddus. Mae’r Wobr Arfordir Glas hefyd wedi cydnabod nifer o draethau Sir Benfro am eu harddwch, eu glendid ac ansawdd eu dŵr ymdrochi. Mae’r traethau hyn yn cynnwys llefydd y teimlir eu bod yn fwy anghysbell, ac maen nhw’n cynnwys Bae Barafundle, a argymhellwyd gan bapur newydd cenedlaethol fel un o’r deg lle gorau yn y byd i fwynhau picnic. Yn aml mae Sir Benfro yn rhagori ar bob rhan arall o Gymru o ran y nifer o draethau a gydnabuwyd.

Trwy gydol y gwanwyn a’r haf, cymerir samplau dŵr o draethau o amgylch y sir, i sicrhau bod dyfroedd ymdrochi yn cwrdd â’r safonau bacteriolegol mandadol, neu’n rhagori arnynt. Ac fe fyddai’n ymddangos bod Sir Benfro, heb unrhyw ddamweiniau pellach gydag olew, yn mynd i barhau i adeiladu ar ei llwyddiant.

Yr her nawr, i bob asiantaeth sy’n gweithio yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn lleol, yw sut i gwrdd, i addasu ar gyfer y dyfodol ac i gynnal amgylchedd arbennig.

Ynni Adnewyddadwy

Ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig, mae pobl yn dod yn fwy a mwy ymwybodol o’r gwahanol ffyrdd o gynhyrchu pŵer. Mae Sir Benfro’n gartref i nifer o burfa olew, gorsaf bŵer nwy, a’r cyfleusterau storio LNG (nwy naturiol hylifol) newydd, tu allan i ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Ond, mae’r sir hefyd ar flaen y broses o ddatblygu cyflenwadau ynni adnewyddadwy newydd, cyflenwadau sy’n cael llai o effaith ar yr amgylchedd. Mae rhai o’r rhain wedi elwa o gyllid gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy’r Awdurdod (SDF).​

Ffynonellau ynni adnewyddadwy yw’r ffynonellau hynny sy’n cael effaith finimal ar hinsawdd ac ar yr amgylchedd, ac maen nhw’n cael eu galw’n ffynonellau ynni gwyrdd. Maen nhw’n defnyddio grymoedd naturiol fel yr haul, y tywydd a’r Ddaear i gynhyrchu ynni. Mae Ffynonellau Adnewyddadwy’n cynnwys:

  • Biomas. Mae hyn yn golygu tyfu llysiau, planhigion neu goed, sydd yna’n cael eu llosgi i gynhyrchu ynni. Mae’r math yma o ynni adnewyddadwy bron yn garbon niwtral, oherwydd mae’r carbon sy’n cael ei amsugno gan y planhigyn pan fydd yn tyfu’n gwneud iawn am y carbon sy’n cael ei ollwng wrth ei losgi. Mae biomas yn gallu cynnwys tanwydd solid – boncyffion, sglodion neu belenni pren – neu’n gallu cael ei wneud o gnydau sy’n cael eu prosesu’n hylif neu’n nwy. Mae’r cnydau olaf hyn yn dueddol o fod yn rhai sy’n uchel mewn siwgr, fel betys siwgr, neu’n uchel mewn olew, fel olew palmwydd neu soia.
  • Geothermol. Ystyr hyn yw defnyddio gwres sy’n ddwfn yn y Ddaear, ac mae’n cael ei echdynnu gan ddefnyddio pympiau a ffynhonnau dwfn.
  • Pympiau Gwres. Mae pympiau gwres yn echdynnu gwres naill ai o’r tir, yr aer neu ddŵr. Mae’r pympiau hyn yn gweithio mewn ffordd debyg i oergell yn yr ystyr eu bod yn defnyddio oerydd i symud gwres o un man – y tir, yr aer neu ddŵr – i fan arall, fel cartref neu swyddfa.
  • Ynni Dŵr. Dyma un o’r mathau hynaf o ynni adnewyddadwy, ac mae wedi cael ei ddefnyddio ers meitin i yrru systemau dyfrhau a melinau dŵr o amgylch y byd. Yn amlwg, mae pŵer dŵr angen ffynhonnell dŵr fel nant neu afon i’w yrru.
  • Ynni’r Haul. Mae systemau ffotofoltäig yn gallu trawsnewid golau’r haul yn bŵer trydanol. Gellir eu gosod mewn adeiladau ac maen nhw’n dawel ac yn ddibynadwy.
  • Ynni’r Gwynt. Mae gan y Deyrnas Unedig 40% o adnoddau gwynt Ewrop, ac felly mae mewn sefyllfa ddelfrydol i ffrwyno pŵer y gwynt. Mae’r dechnoleg yn defnyddio tyrbinau i gynhyrchu trydan.
  • Ynni’r Llanw. Fel ynni dŵr, mae’r ffynhonnell ynni yma wedi cael ei defnyddio ers cannoedd o flynyddoedd, ac, yn Sir Benfro, mae Melin Lanw Cairew yn atgof o’r ffaith fod pobl y sir wedi defnyddio grym y llanw ers hydoedd. Mae technoleg newydd yn edrych ar osod tyrbinau oddi ar yr arfordir, mewn ardaloedd ble mae llif cynyddol gan y llanw, er enghraifft oddi ar y pentiroedd.

Mae Sir Benfro mewn lle delfrydol i elwa a gwneud defnydd o’r ffynonellau ynni adnewyddadwy hyn. Oherwydd ei safle daearyddol, yn ymwthio allan i Fôr Iwerddon, gyda nifer o bentiroedd, mae’n golygu y gall ffrwyno ffynonellau fel ynni’r gwynt a’r llanw. Mae unigolion a chwmnïau’n defnyddio ynni’r haul, ynni’r gwynt, pympiau gwres ac ynni dŵr. Mae’r Parc Cenedlaethol hefyd wedi gwneud defnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn ei swyddfeydd yn Llanion, ac yn y cerbydau a ddefnyddir gan staff yr Awdurdod.

Ond, rhaid cydnabod, tra gallai’r ffynonellau ynni adnewyddadwy hyn fod o fudd i’r amgylchedd ac i bobl, nid ydynt yn boblogaidd gyda phawb. Mae pobl yn poeni fod rhai ffynonellau ynni yn salw, neu y gallant fod yn swnllyd, tra gallai eraill effeithio ar ecoleg dyner Sir Benfro, yn enwedig y bywyd sy’n ffynnu ar yr ynysoedd oddi ar yr arfordir ac o’u cwmpas.

Mae gan y Parc Cenedlaethol rôl, trwy’r Cydgynllun Datblygu a’r adran cynllunio, i reoleiddio datblygiad o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cydnabod bod gan y Parc Cenedlaethol botensial sylweddol ar gyfer cyflenwi ynni adnewyddadwy.

Rhaid pwyso’r gefnogaeth ar gyfer cynhyrchu ynni o adnoddau adnewyddadwy yn ofalus yn erbyn yr angen i warchod yr amgylchedd adeiledig, hanesyddol a naturiol, gan gynnwys yr arfordir, cefn gwlad, y dirwedd ac aneddiadau hanesyddol, amwynder trigolion lleol, amaethyddiaeth a choedwigaeth.

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol