Ystyr gwarchod rhywbeth yw ei gadw a'i amddiffyn rhag niwed. Mae'n ddyletswydd ar Awdurdod y Parc Cenedlaethol i warchod pob rhywogaeth o fewn y Parc rhag niwed neu golled, yn ogystal â'r man lle mae'n byw.
Rheolir y broses o ofalu ac amddiffyn gan bobl arbennig fel Swyddogion Bioamrywiaeth a Chadwraeth, Parcmyn a Wardeiniaid. Gyda’i gilydd, maen nhw’n monitro (gwylio, arolygu a chofnodi) ac yn gofalu am gynefinoedd y Parc i sicrhau bod yr amgylchedd sy’n bodoli nawr yn Sir Benfro yma ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Yn y Parc, mae gennym gymaint o gynefinoedd a rhywogaethau gwahanol sy’n arbennig ac yn unigryw fod angen i ni eu monitro a’u rheoli er mwyn eu hamddiffyn a’u helpu i ffynnu. Gyda rhai cynefinoedd mae hyn yn golygu cymryd camau penodol a gofalus iawn.
Er enghraifft, cyfyngir y nifer o bobl sy’n cael ymweld â rhai o’r ynysoedd oddi ar y lan yn ystod y Gwanwyn a’r Haf er mwyn sicrhau nad oes unrhyw darfu ar yr adar môr sy’n nythu yno. Mewn ardaloedd eraill, rydyn ni’n gweithio gyda ffermwyr i newid yr amserau torri gwair er mwyn galluogi blodau gwyllt i hau eu hadau neu i adar sy’n nythu ar y tir fel yr Ehedydd i fagu eu rhai bach. Caiff rhai mannau eu gwarchod gan y gyfraith ac maen nhw angen gwaith monitro ychwanegol er mwyn gwarchod yr amgylcheddau arbennig hynny. Un enghraifft o hyn yw’r SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) ar hyd y godiroedd.
Mae rhai mannau mor boblogaidd gydag ymwelwyr fel eu bod angen cael eu monitro ac mae angen cyflwyno technegau rheoli, er enghraifft mae yna drefniadau arbennig i reoli traffig yn y tymor uchel yn Ninbych-y-pysgod a Thyddewi.
Cysylltiadau Ecolegol
Ystyr Ecoleg yw astudio pethau byw yn y cynefin ble maen nhw’n byw a sut maen nhw’n rhyngweithio gyda’i gilydd. O’r astudiaethau hyn, rydyn ni’n cael y term Ecosystem. Mae ecosystem yn disgrifio’r pethau byw mewn ardal a sut maen nhw’n perthyn i’r amgylchedd ffisegol yn ogystal â’i gilydd. Mae ecosystemau yn cynnwys cynefinoedd, e.e. mae’r traeth caregog yn gynefin mewn ecosystem forol.
Gellir cynnal cydbwysedd naturiol pob ecosystem trwy gadwraeth. Mae’r angen am gadwraeth yn deillio o’r rhagdybiaeth mai’r Ddaear yw Natur a bod gan y Ddaear derfyn ar yr adnoddau y gall eu cynhyrchu a’r gwastraff y gall ei amsugno. Mewn ecosystem iach mae yna fioamrywiaeth uchel, hy. Mwy o bethau byw ynddo. Pan fydd ecolegwyr yn astudio bioamrywiaeth, mae gan bob rhywogaeth yr un gwerth, waeth a yw’n brin neu’n gyffredin. Mae rhywogaethau cyffredin yn ddangosyddion da ar gyfer iechyd yr ardal – gorau po fwyaf ohonyn nhw sydd!
Mae bioamrywiaeth yn bwysig oherwydd mae gan bob rhywogaeth elfen o amrywiaeth genetig ac amrywiaeth esblygol. Y ddau fath yma o amrywiaeth sy’n gyrru esblygiad ac yn galluogi rhywogaethau i addasu i newidiadau yn yr amgylchedd. Amrywiaeth genetig yw’r amrywiadau bach o fewn rhywogaeth, e.e. mae pobl yn gyfuniad o sawl hil. Mae amrywiaeth esblygol yn golygu bod rhywogaeth newydd yn esblygu.
Gelwir lle rhywogaeth yn y cynefin yn gilfach neu, yn Saesneg, niche. Mae hyn yn golygu y man lle mae’n byw yn gorfforol a’r rôl sydd ganddo yn y cynefin.
Ar y Ddaear, mae yna gymaint o lefydd y gellir byw ynddynt ac mae hyn yn golygu miliynau o rywogaethau a phlaned amrywiol iawn. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n deall sut mae pob rhywogaeth ym mhob cynefin yn gysylltiedig â’i gilydd ac mae’n bwysig ein bod yn parchu pob rhywogaeth fel petaent yr un mor bwysig â’i gilydd yng nghydbwysedd y Ddaear.
Amddiffyniad cyfreithiol
Nature is conserved and protected in specially designated areas. These areas protect the wildlife and habitats within them and are monitored (observed) so no harm can come to them. Harming these protected areas can lead to prosecution, fines and imprisonment.
The network of internationally recognised conservation areas we see today has taken more than 50 years to develop. The Pembrokeshire Coast National Park is home to 13 Special Areas of Conservation (three marine SACs overlap about 75% of the Park coastline and account for about 60% of the inshore area), five Special Protection Areas (SPA), one Marine Conservation Zone (MCZ), seven National Nature Reserves (NNR) and 60 Sites of Special Scientific Interest (SSSI).