Mae pobl yn tynnu ffotograffau o dirwedd Sir Benfro, ac yn ei phaentio, byth a beunydd, wrth i’r cerddwr a’r artist werthfawrogi’r golygfeydd gwefreiddiol. Os gewch chi gyfle i ymweld ag Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, fe welwch chi lawer o ddehongliadau amrywiol o dirwedd o’r radd flaenaf y mae miliynau o bobl yn ymweld â hi. Ond, beth sydd wedi creu’r dirwedd hon?
Efallai bod y map isod o dopograffeg Sir Benfro yn edrych braidd yn gymhleth, ond gellir ei dorri’n rhannau y gellir eu hesbonio’n hwylus. Fe fyddai’n cymryd gormod o amser i esbonio popeth, ac felly fe gawn ni ganolbwyntio ar rai nodweddion amlwg.
Er enghraifft, mae yna nifer o lefydd yn Sir Benfro ble mae’r dirwedd yn edrych yn wastad iawn o bellter. Mae hyn yn fwy amlwg yn ardal Bosherston ac o amgylch morlin Bae Sain Ffraid, yn enwedig penrhynau Dale, Marloes a Thyddewi.
Mae astudiaeth ofalus o fap o gyfuchliniau yn dangos bod uchderau rhai o’r cefnennau mwy amlwg sy’n codi uwchben y llwyfandiroedd arfordirol, mewn gwirionedd mewn grwpiau agos, a gallent fod yn weddillion ynysig sawl tirwedd llwyfandir uwch a hŷn.
Er bod yna gryn ddadlau o hyd, mae mwyafrif y daearegwyr bellach yn credu bod yr arwynebau hyn wedi cael eu ffurfio gan erydiad morol yn yr un ffordd ag y mae llwyfannau wedi eu torri gan donnau yn datblygu o amgylch ein morlin ni heddiw. Felly, mae hyn yn golygu efallai fod tonnau wedi bod yn taro yn erbyn llethrau Carn Llidi!
Y cwestiwn sy’n cael ei holi, yw sut allai lefel y môr fod wedi bod mor uchel?
Petai’r holl iâ yn toddi (gan gynnwys y trwch mawr ar yr Ynys Las ac Antarctica), fe fyddai lefel y môr ond yn gorchuddio’r llwyfandir is (60m uwchben lefel bresennol y môr).
Tuag at ddiwedd y Cyfnod Cretasaidd (tua 70 miliwn o flynyddoedd yn ôl), mae’n ymddangos fod amodau hinsoddol wedi cyrraedd cyflwr y cyfeirir ato fel ‘Daear Tŷ Gwydr’, heb unrhyw iâ yn ei orchuddio o gwbl.
Ond sut allai’r arwynebau uwch, fel yr un o amgylch Mynyddoedd y Preseli, fod wedi cael eu ffurfio?
Mae grymoedd tectonig (symudiad y ‘platiau’ sy’n ffurfio cramen y Ddaear) yn gallu achosi newidiadau yn lefel y môr, mewn perthynas â’r tir, ac felly mae’n ymddangos bod arwyneb y tir hefyd wedi gorfod cael ei godi.
Efallai mai ffactor arall a gyfrannodd oedd bod basnau dwfn y cefnfor wedi mynd yn llai ac felly bod dŵr y môr wedi cael ei wthio’n raddol dros ysgafelloedd cyfandirol.
Mae’r llwyfandiroedd a’r cefnennau oll wedi cael eu hogi wrth i haenau o iâ lifo heibio (gan achosi gostyngiad yn yr uchder tua’r gorllewin) a’u trawstorri’n ddwfn gan afonydd, yn enwedig wrth i’w llif gynyddu’n sylweddol pan doddodd yr iâ. Mewn llawer o achosion, mae’n ymddangos bod y dŵr tawdd yn llifo o dan yr iâ i ddechrau. Mae hyn yn digwydd pan fydd dŵr o arwyneb yr iâ yn llifo i lawr trwy agendorau i mewn i ogofau iâ, gan greu digon o bwysedd dŵr i ganiatáu llif i fyny ar hyd rhai adrannau.
Mae’r effeithiau hyn yn amlwg iawn yn Nyfrffordd Aberdaugleddau, y cyfeirir ati yn aml fel ‘dyffryn afon boddedig’ (ria). Er i godiad yn lefel y môr, ar ôl y rhewlifoedd, orlifo’r ardal hon, roedd dŵr tawdd wedi newid proffiliau’r dyffryn afon yn fawr iawn, gan greu’r hyn sydd erbyn heddiw yn sianel dŵr dwfn Aberdaugleddau a’r basnau a’r ysgafelloedd yng ngwely Aber y Daugleddau.
Yn Ne Sir Benfro, yn ogystal â’r llwyfandir calchfaen a ddangosir yn Llun 1, mae yna gyfres o gefnennau a dyffryndiroedd sydd wedi datblygu’n dda (gweler y map topograffig) ac sy’n adlewyrchiad agos o’r ddaeareg oddi tano. Datblygwyd yr holl dir uchel ar yr Hen Dywodfaen Coch sydd wedi sefyll ei dir yn erbyn y tywydd ac erydiad yn well nag unrhyw fath arall o graig.
Felly, fel y gwelwch chi, mae gan Sir Benfro orffennol digon lliwgar ac mae rhannau o’r gorffennol hwn yn dal i fod dan gwmwl o ddirgelwch.