Enwau Llefydd

Ers sawl blwyddyn ydych chi wedi bod yn gyrru heibio i arwyddion ar gyrion eich tref neu’ch pentref heb wybod beth yw ystyr yr enw? Mae nifer o’r enwau lleoedd yn Sir Benfro wedi deillio o eiriau disgrifiadol o’r ardal.

Mae modd rhannu’r enwau lleoedd ledled y Parc Cenedlaethol yn fras yn enwau Cymraeg a Saesneg Eingl-Normaneg.

Mae Llanrhian, ger Tyddewi, yn enghraifft nodweddiadol o enw Cymraeg. Ystyr ‘llan’ yw ‘eglwys neu le caeedig’ a daw ‘rhian’ o enw sant o’r chweched ganrif h.y. eglwys neu anheddiad Sant Rhian.

Aneddiadau Eingl-Normanaidd o’r 11eg ganrif yw nifer o leoedd newydd, a enwyd yn aml ar ôl eu sylfaenwyr, gyda’r ôl-ddodiad ‘ton’ (tref/fferm). Felly ystyr Hodgeston yw ‘Fferm Hodge’, a soniwyd amdano gyntaf ym 1291.

Mae nifer o enwau cymysg yn goroesi, gyda chamynganu, seisnigeiddio ac, o’r herwydd, camsillafu wedi’u cawlio.

Er enghraifft, llygredd o’r Gymraeg ‘Llawr-enni’ (gwely afon Enni) yw Lawrenny.

Ceir detholiad o enwau lleoedd lleol wedi’u cyfieithu isod

Place Name

Meaning

Abercastle

Abercastell yn Gymraeg

Abereiddi

Aber yr Afon Eiddi

Amroth

Llanrath yn Gymraeg – eglwys ger nant Rhath

Angle

Tir mewn cornel

Bosherton

Fferm Bosher

Boulston

Fferm Bole

Broad Haven

Soniwyd amdano yn gyntaf ym 1602, Aberllydan yn Gymraeg

Brynberian

Llyn Berrian yn wreiddiol

Caerfarchell

Caer Marchell

Caldey Island

Tarddiad Sgandinafaidd – Ynys Oer (Ynys Bŷr, sef ei habad cyntaf, yn Gymraeg)

Carew

Caeriw – bryngaer

Carew Newton

Tref newydd Caeriw

Castlemartin

Castellmartin yn Gymraeg (castell Sant Martin)

Cresselly

Creseli (Croes Eli) yn Gymraeg

Cresswell Quay

Ffynnon lle mae berwr yn tyfu

Dale

Lle yn y dyffryn

Dinas Cross

Dinas – caer

Felindre Farchog

Melin y marchog

Haroldston West

Fferm Harold

Hasguard

Sgandinafeg ‘bus skar’ – tŷ yn y dyffryn (Haskerd ar lafar)

Herbrandston

Fferm Herbrand (Harberston ar lafar yn lleol)

Hodgeston

Fferm Hodges (Hotson ar lafar yn lleol)

Hook

Ongl tir

Jameston

Fferm James

Landshipping

Long shippon – beudy

Lawrenny

Llawr- enni – gwely afon Enni

Little Haven

Soniwyd amdano gyntaf ym 1578

Llanrhian

Eglwys Sant Rhian

Llanwnda

Eglwys Gwyndaf

Lydstep

Norseg Lowde-hop – Bae Lowde

Manorbier

Maenor-bŷr – fel Ynys Bŷr

Marloes

Moel-Rhos

Milton

Fferm y felin

Middle Mill

Y Felin Ganol yn Gymraeg, ym meddiant Esgob Tyddewi erbyn 1390

Minwear

Mynwar yn Gymraeg – ystyr yn aneglur. O bosibl ‘Minwern’ – min y wern (Minner ar lafar yn lleol)

Monington

Fferm Mann

Moylegrove

Trewyddel yn wreiddiol – fferm llwyn a llwyn Matilda (Matilda’s Grove) erbyn 1291

Mynachlogddu

Y fynachlog ddu

Nevern

Nanhyfer yn Gymraeg – eglwys ger afon Nyfer

Newgale

Niwgwl yn Gymraeg – ystyr yr aneglur. O bosibl enw Gwyddeleg Neugwl, Gwynedd sydd â thopograffeg debyg

New Hedges

Llan-Fair yn Gymraeg – soniwyd amdano gyntaf oddeutu 1773

Newport

Trefdraeth yn Gymraeg

Nolton

Hen fferm

Pontfaen

Pont gerrig

Penally

Penalun – Penrhyn Alun

Penycwm

Pen y cwm

Pantglasier

Pont Glasier

Porthgain

Bae Afon Cain

Roch

Y Garn yn Gymraeg – craig lle saif castell

Ramsey Island

Naill ai ynys Hrafn ar ôl rhywun Nordig neu Lramsa – Norseg am graf y geifr. (Ynys Dewi yn Gymraeg)

Rosebush

O ‘rhos’ a ‘bush’

Sardis

Ar ôl enw capel – Sardis oedd prifddinas Ymerodraeth Lydia

Saundersfoot

Troed Bryn Alexander

Slebech

Slebets yn Gymraeg – ystyr yn aneglur

Skokholm Island

Norseg – ynys yn y culfor (Ynys Sgogwm yn Gymraeg)

Skomer Island

Norse ‘Skalm’ and ‘ey’ = Cloven Island

Solva

Solfach yn Gymraeg – enw wedi’i gymryd o Afon Solfach

St Brides

Eglwys Sain Ffraid

St Davids

Tyddewi, ar ôl Dewi Sant, oddeutu 530-589

St Ishmaels

Llanisan-yn-Rhos, eglwys Sant Isan

St Twynells

Eglwys Wynnio yn Gymraeg, eglwys Sant Gwynog

Stackpole

Norseg o bosibl. ‘Stakkr’ a ‘pollr’ – pwll ger craig

Talbenny

Tal-y-benni – pen crib

Tenby

Dinbych-y-pysgod yn Gymraeg

The Rhos

Y Rhos

Trefin

O bosibl Treddyn – fferm ar dir uchel

Treteio

O bosibl yn deillio o Tir-taeog – tir a oedd yn cael ei asesu ar gyfer treth

Walton West

Fferm Wale

Walwyn’s Castle

Castell Gwalchmai

Warren

O bosibl yn deillio o Goteran – gorlif nant neu ffynnon

Whitchurch

Yr eglwys wen, ond Tre-groes yn Gymraeg

Wisemans Bridge

Yn gysylltiedig â’r teulu Canoloesol Wiseman