Mae siambrau claddu, coetiroedd hynafol a charneddau cerrig yn gwneud yr ardal hon yng ngogledd Sir Benfro yn lle llawn myth a dirgelwch, yn lle i danio’r dychymyg.
Yr Afanc
Stori am fwystfil ffiaidd yn brawychu pentref Brynberian a sut ceisiodd y pentrefwyr ei stopio.
Y Cewri Twp
Tri brawd a thri chawr sy’n brwydro am eu hetifeddiaeth a’r hyn sydd ar ôl yw Carnedd Meibion Owen – er mwyn i ni gofio amdanynt.