Mwynhewch yr ymdeimlad o ryddid a’r golygfeydd helaeth o uchelfannau’r Preseli, a lwyddodd o drwch blewyn i osgoi dod yn faes ymarfer milwrol parhaol.
Culhwch ac Olwen
The story of a brave warrior’s quest for his beautiful bride on the wild and rugged Preseli Hills.
Mae baedd yn rhyw fath o fochyn gwyllt. Ac roedd moch gwyllt yn gyffredin iawn ar un adeg ar draws y tir hwn, yn byw mewn fforestydd a mannau gwyllt eraill. Roedd baedd gwryw yn greadur milain; ffyrnig, anwar a marwol.
Gallai dyfu’n fawr, roedd ganddo ddannedd ac ysgithrau miniog ac fel arfer cai ei hela gan farchogion ar gefn ceffylau, neu gan ddynion â gwaywffyn hirion. Roedd hela baedd yn dasg beryglus, yn addas yn unig i’r bobol fwyaf cryf a dewr.
Roedd y Twrch Trwyth yn faedd anferth. Roedd yn sefyll mor fawr â cheffyl brwydr, ac roedd ei lygaid yn llosgi fel fflamau crynedig tân yn y gaeaf. Roedd ei flew yn drwchus a gwydn fel y gwiail helyg a dyfai ger afon Nanhyfer.
Nawr fel y digwyddai roedd yna ryfelwr dewr o’r enw Culhwch. Roedd yn ddyn bonheddig, yn garedig ac yn ddewr fel y’i gilydd, ac roedd wedi syrthio mewn cariad.
Cariad Culhwch oedd merch hardd o’r enw Olwen, merch y cawr Ysbaddaden. Roedd Ysbaddaden yn benderfynol na fyddai’r un dyn yn mynnu llaw ei ferch brydferth heb brofi ei fod yn deilwng ohoni, ac felly fe osododd her i Culhwch.
Dywedodd Ysbaddaden, “Trwy’r byd i gyd does dim un crib neu siswrn all dorri fy ngwallt, ac eithrio’r grib a’r siswrn sy rhwng
clustiau’r Twrch Trwyth. Wnaiff e ddim rhoi’r rhain yn rhydd i ti, a fyddi di ddim yn gallu eu cymryd oddi wrtho.”
Ymgrymodd Culhwch i Ysbaddaden, ac addo y byddai’n chwilio am y Twrch Trwyth, ac ennill oddi wrtho’r grib a’r siswrn hudol.
Felly fe aeth Culhwch ar ei ffordd gyda’i farchogion a’i geffylau a’i gŵn. Cleciai’r baneri ar waywffyn y marchogion yn y gwynt, a chariodd cyfarth yr helgwn ar draws y tir.
Cyn hir daeth Culhwch i dref Hwlffordd ger yr afon Cleddau, a chael fod y Twrch Trwyth wedi bod yn agos iawn, yn ymosod ar y ffermydd i lenwi ei fol mawr, a lladd unrhyw ddyn neu greadur a geisiodd ei rwystro.
Arweiniodd Culhwch ei ddynion o’r dref ac ar sŵn ei gorn hela, rhuodd y Twrch Trwyth yn uchel a dianc i Fynyddoedd y Preseli, gan guddio yn y coedwigoedd niwlog a’r cymoedd tawel, lle clywyd sŵn y ffrydiau’n diferu yn unig.
Ond ymlaen y daeth Culhwch, gan flino’r mochyn mawr a’i yrru allan o’i ffau. Trwy Nanhyfer a Chwm Cerwyn y rhuthrodd y baedd ac ar un o fynyddoedd y Preseli nid oedd y mochyn yn gallu rhedeg mwy, a safodd i wynebu Culhwch a’i ddynion.
Roedd y frwydr a ddilynodd yn un ffyrnig. Ffliciodd y Twrch Trwyth ei ben i’r gogledd ac i’r de ac fe ddaliodd ei ysgithrau ddynion a’u hyrddio oddi ar eu cyfrwyau.
Gyda rhuthr i’r dwyrain ac i’r gorllewin fe yrrodd gŵn Culhwch i ffwrdd gyda’i ddannedd miniog, a charnau miniocach hyd nes mai Culhwch yn unig oedd ar ôl i wynebu’r bwystfil mawr.
Yn ochelgar fe gylchodd y ddau ei gilydd. Roedd y ddau yn dyhyfod yn drwm a rhedai’r chwys i lawr wyneb Culhwch a hefyd i lawr groen y Twrch Trwyth.
Ac yna fe ddaeth yr ysgarmes olaf. Wrth i ddyn a bwystfil ddod at ei gilydd fe chwifiodd cleddyf, fflachiodd ysgithrau yng ngolau min nos a gyda gwich enfawr syrthiodd y Twrch Trwyth.
Dywedir i fryniau Moel Drygarn a Moel Cwm Cerwyn ysgwyd pan syrthiodd y Twrch Trwyth ac fe deimlodd yr Arglwydd Ysbaddaden gryndod o dan ei draed yn ei gastell. Ac yna fe wyddai fod Culhwch wedi lladd y mochyn mawr a’i fod yn deilwng o’i ferch, Olwen deg.
Eiriau gan – Craig Stringer
Gallwch weld cerflun o’r Twrch Trwyth ar dir Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi.
Y Frwydr yn yr Awyr
Stori am ddigwyddiadau rhyfedd yn yr awyr ar gyrion gorllewinol Mynyddoedd y Preseli.
Un tro roedd ffermdy gwyngalchog ar lethrau noeth a digysgod Mynydd Morfil. Yno trigai ffarmwr, ei wraig a dau fab. Bugeiliaid oedden nhw, yn gofalu am eu praidd ar y gweundiroedd gwyllt o gwmpas.
Un nos aeth y ffarmwr allan i’r mynyddoedd gyda’i ddau fab pan ddigwyddodd y peth rhyfeddaf.
Roedd yr haul yn machlud uwchben Mynydd Cilciffeth ac i’r dwyrain roedd cymylau mawrion yn ymgasglu dros gopa Foel Eryr.
Ymddangosai fod yna lwybr euraidd ar draws yr awyr wedi’i osod yno gan belydr yr haul yn machlud. Yn sydyn tywyllodd y cymylau a tharfwyd ar y tawelwch gan hwrdd o wynt.
Yna o bell daeth sŵn megis taran dros y bryniau. Credai’r bugail mai taranau ydoedd y sŵn, ond yna fe sylweddolodd ei fod yn clywed sŵn ceffylau yn carlamu- miloedd ohonyn nhw, yn taranu ar draws yr awyr ac yn atseinio trwy’r dyffrynnoedd a’r bryniau tywyll.
Doedd e ddim yn gallu credu ei lygaid pan edrychodd i’r gogledd ddwyrain a gweld bataliwn o filwyr ar droed yn gorymdeithio
dros y gorwel, fel petaent yn dod allan o waelod y cymylau oedd bellach yn cuddio copa Foel Eryr.
Gallai weld eu tariannau, eu harfau a’u gwawyffyn yn fflachio a llewyrchu ym mhelydrau’r haul oedd yn machlud.
Gallai glywed sŵn drwm wrth i’r milwyr orymdeithio ymlaen gan bwyll, ac yna fe welodd y milwyr marchog hefyd, yn dal eu ceffylau yn ôl wrth i’r fyddin symud ymlaen.
Roedd dau fab y bugail yn edrych i’r cyfeiriad arall, wedi’u syfrdanu gan yr hyn a welent.
Dyma nhw’n gweiddi, “Edrych nhad! Edrych ar Fynydd Cilciffeth!” Trodd y bugail ac fe welodd e hefyd fod byddin arall yn dod dros gopa’r gweundir digysgod hwnnw, yn rhuthro i gyfeiriad y gelyn.
Eto roedd milwyr ar droed a rhai yn marchogaeth, ac eto roedd eu harfau yn fflachio wrth iddyn nhw ddod allan o’r haul oedd yn machlud.
Teimlodd y gwylwyr rhyw ias wrth iddyn nhw glywed sŵn miloedd o saethau yn hedfan uwch eu pennau, ac yna bloeddiadau’r milwyr wrth i’r ddwy fyddin ymuno mewn brwydr.
Wrth i’r cymylau arian rasio uwchben fe welodd y ffarmwr a’i feibion ffustiau, cleddyfau a chadfwyeill yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd erchyll.
Codai’r ceffylau a syrthio, wedi’u niweidio’n farwol. Roedd dynion yn ymladd â’i gilydd mewn brwydr waedlyd.
Roedd tariannau a helmedau yn cael eu taro a’u hollti. Hedfanai gwawyffyn hirion a phicellau drwy’r awyr, a gwaeddai a sgrechiai
dynion, rhai mewn buddugoliaeth ac eraill mewn ing.
Roedd y frwydr yn ffyrnig a gwaedlyd, ac aeth ymlaen am fwy nag awr wrth iddi dywyllu.
Yna fe holltwyd yr awyr gan fellten wrth i gymylau duon orchuddio’r mynyddoedd, a lledodd glaw trwm ar draws y dirwedd, ynghyd â mellt a sŵn taranau byddarol yn syth uwchben.
Doedd y bugail a’i feibion ddim wedi profi’r fath storm; fe gawson nhw gysgod o dan graig, ac yno yr arhoson nhw am fwy nag awr o amser.
O’r diwedd stopiodd y glaw a chliriodd y cymylau, ac fe aeth y tri nôl adref yng ngolau’r lleuad a’r awyr felfed.
Cofiwyd am y storm am flynyddoedd gan eraill yn yr ardal, ond y bugail a’i feibion oedd yr unig rai i weld y frwydr rith.
Wnaethon nhw byth ei anghofio ac fe drosglwyddwyd yr atgof o genhedlaeth i genhedlaeth.
Dwy ganrif yn ddiweddarach gadawyd y ffermdy bychan gwyngalchog yn wag ac dirywiodd yn bentwr o gerrig ar goll ymhlith y grug a’r eithin.
Eiriau gan – Brian John
Preseli gan Waldo Williams
Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,
Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn.
A’m llawr o’r Witwg i’r Wern ac i lawr i’r Efail
Lle tasgodd y gwreichion sydd yn hŷn na harn.
Ac ar glosydd, ar aelwydydd fy mhobl –
Hil y gwynt a’r glaw a’r niwl a’r gelaets a’r grug,
Yn ymgodymu â daear ac wybren ac yn cario
Ac yn estyn yr haul i’r plant, o’u plyg.
Cof ac arwydd, medel ar lethr eu cymydog.
Pedair gwanaf o’r ceirch yn cwympo i’w cais,
Ac un cwrs cyflym, ac wrth laesu eu cefnau
Chwarddiad cawraidd i’r cwmwl, un llef pedwar llais.
Fy Nghymru, a bro brawdoliaeth, fy nghri, fy nghrefydd,
Unig falm i fyd, ei chenhadaeth, ei her,
Perl yr anfeidrol awr yn wystl gan amser,
Gobaith yr yrfa faith ar y drofa fer.
Hon oedd fy ffenestr, y cynaeafu a’r cneifio.
Mi welais drefn yn fy mhalas draw.
Mae rhu, mae rhaib drwy’r fforest ddiffenestr.
Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw.