Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn fwy na dim ond morlin hardd - archwiliwch ddyfrffyrdd cyfrinachol Aber Daugleddau, a dyffrynnoedd coediog a garw’r Preseli.
Oddy Sgomer
Y cawr cyfeillgar a achubodd greaduriaid Dyfrffordd Aberdaugleddau a gadael ei farc ar ymylon Aber Afon Cleddau.
Un tro yn y môr gerllaw lle mae Aberdaugleddau heddiw, roedd dau anghenfil môr.
Roedden nhw’n ymladd yn y môr ac fe ymladdon nhw mor ffyrnig nes iddyn nhw gicio llawer o fwd o waelod y môr.
Hedfanodd y mwd dros y tir- SPLAT- a glanio ar y caeau. Daeth i lawr ar y tai. Daeth i lawr ymhobman. Yn fuan roedd y tir yn drewi.
Yn y mwd roedd llawer o greaduriaid y môr- coblynnod y môr a morfeirch a sêr môr a physgod.
Druan ohonyn nhw! Roedd creaduriaid y môr wedi’u dal yno. Fedren nhw ddim mynd nôl i’r môr. Roedden nhw’n mynd i farw os nad oedd rhywun yno i’w helpu.
Roedden nhw’n dyfalu beth i’w wneud. Dywedodd un o’r creaduriaid y dylai rhai ohonyn nhw oedd yn dal yn gallu symud fynd i fyny i’r mynyddoedd a dod o hyd i Oddy Sgomer.
A dyna beth wnaethon nhw. Roedd rhaid iddyn nhw fynd ymhell iawn- bob cam i fyny Mynyddoedd y Preseli.
Wedi cyrraedd yno fe gwrddon nhw greaduriaid mynydd bachcoblynnod a thylwyth teg a phicsis – a dangosodd y creaduriaid hyn lle i fynd.
Yn fuan fe glywon nhw sŵn enfawr. Ac yn fuan fe welon nhw beth oedd y sŵn pan aethon nhw i lawr i dwnnel ac i mewn i ogof fawr dywyll.
Oddy Sgomer oedd yn chwyrnu. Cawr oedd Oddy Sgomer a phan welodd creadauriaid y môr ef, fe ryfeddon nhw. Roedd e’n enfawr! Ac roedd yn cysgu’n sownd.
Sut roedden nhw’n mynd i’w ddihuno? Fe drïon nhw pob math o bethau – goglais, neidio, tynnu ei wallt. Yna fe benderfynon nhw ganu. Dyma’r gân ganon nhw:
Oddy Sgomer! Oddy Sgomer!
Pen mawr a chorff mawr!
Helpa ni, helpa ni!
Helpa ni, helpa ni!
Mwd yn ôl i’r môr nawr!
Dihunodd Oddy Sgomer pan ddechreuodd creaduriaid y môr a chreaduriaid y mynydd ganu.
Dywedodd y byddai’n helpu creaduriaid y môr. Felly fe’u cododd hwy ar ei gorff- ar ei glustiau a’i drwyn a’i ysgwyddau- a’u cario yn ôl tuag at y môr.
Cyrhaeddodd yno ar ôl chwe cham yn unig a lle glaniodd ei draed pan gyrhaeddodd, fe wnaeth nifer o draethau bychain yn ffurf bysedd ei draed. (Rhain ydyw’r traethau ar hyd aber y Cleddau ar y ffordd i Aberdaugleddau).
A phan gyrhaeddodd Oddy Sgomer y mwd, fe’i cododd i gyd a’i daflu yn ôl i’r môr.
Ac am greaduriaid y môr, pan welon nhw Oddy Sgomer, roedden nhw’n ofni cymaint nes i rai pobol ddweud iddyn nhw nofio i ffwrdd ac nis gwelwyd hwy byth mwy.
Dywedodd pobol eraill iddyn nhw ffrwydro yn fil o ddarnau mân a dyna oedd eu diwedd.
Mae plant Sir Benfro yn dal i gofio am Oddy Sgomer. Mae’n dihuno bob can mlynedd.
Os ewch chi i fyny i fynyddoedd y Preseli, efallai y gwelwch chi fe drosoch chi eich hun.