Mae gan Dyddewi, dinas leiaf Prydain a man geni Nawddsant Cymru, y cymysgedd perffaith o hanes, diwylliant, arfordir a chefn gwlad.
Genidigaeth Dewi Sant
Yng nghanol storm enbyd, ganed nawddsant Cymru.
Tua 2000 o flynyddoedd yn ôl cafodd gŵr ifanc o’r enw Sant ymweliad gan ysbryd. Dywedodd yr ysbryd wrtho y dylai gadw darn o dir am 30 o flynyddoedd yn barod ar gyfer mab fyddai’n cael ei eni iddo. Ufuddhaodd Sant i’r hyn ddywedodd yr ysbryd wrtho, ac fe ddaliodd at y darn tir er gwaethaf sawl temtasiwn i’w werthu.
Ymwelodd yr un ysbryd â Sant Padrig tua’r un amser a’i gynghori i beidio setlo yn nhir Sir Benfro gan ei fod ar gadw i fachgen arbennig iawn fyddai’n cael ei eni 30 mlynedd yn ddiweddarach.
Er bod y cyngor hwn yn anghyfleus iddo, ufuddhaodd Padrig a dychwelyd i Iwerddon lle ganwyd ef.
Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, syrthiodd Sant mewn cariad â merch o’r enw Non.
Rhai misoedd ar ôl iddo ei swyno hi, ynghanol storm ffyrnig, gyda’r glaw yn llachio, y taranau’n rhuo a’r mellt yn taro, esgorodd Non.
Mewn cylch o gerrig ar ben y clogwyni, mewn man a adwaenir bellach yn Santes Non, rhoddodd enedigaeth i fachgen bach. O’u cwmpas rhuai’r storm, ond o fewn y cylch, roedd popeth yn llonydd a gwenodd yr haul ar Non a’i baban. Enwodd Non ei baban yn Dewi.
Tarddodd ffrwd o ddŵr pur a chlir i nodi man ei enedigaeth. Tyfodd y bachgen bach hwn, Dewi, i fod yn Dewi Sant, nawddsant Cymru.
Os ydych chi yn ardal Tyddewi, edrychwch allan am gerflun y cylch o gerrig y tu allan i ganolfan groeso Oriel y Parc.
Mae’n cynrychioli’r cylch cerrig lle rhoddodd Non enedigaeth i’w baban.
Fe allwch chi hefyd gerdded i Santes Non a gweld adfeilion hen gapel hynafol Santes Non ynghyd â’r ffynnon sanctaidd a’r capel mwy newydd wedi’i gysegru i Non.