Wrth i anheddwyr newydd wladychu De Sir Benfro, gan arfer eu masnachau, sefydlu trefi a phentrefi a chau caeau i mewn, arhosodd y Cymry brodorol yng ngogledd y sir, tu hwnt i ‘gyffindir’ a labelwyd yn ‘Linell y Landsger’ yn yr 20fed ganrif gynnar. Daw enw’r ‘cyffindir’ hwn o’r gair Norseg am ffin, sef ‘sker’.
Mae’r rhaniad hwn yn dal i fod yn amlwg i radd heddiw, gyda Saesneg De Sir Benfro i’w chlywed yn Arberth a’r Gymraeg dair milltir i fyny’r heol yng Nghlunderwen.
Mae’r rhaniad hwn yn dal i fod yn amlwg i radd heddiw, gyda Saesneg De Sir Benfro i’w chlywed yn Arberth a’r Gymraeg dair milltir i fyny’r heol yng Nghlunderwen.
Dyma ambell air a chymal hyfryd sydd efallai’n unigryw i’r ardal:
Gair | Ystyr |
all to clush/in a caffle | wedi drysu |
all beleejers | hamddenol |
all for heat | diwrnod diflas yn yr haf |
all front | person sy’n gwneud pethau er mwyn dangos eu hun |
angletwitch | pryf genwair |
apple-flap | cacen ‘apple turnover’ |
ba | bachgen |
babaloobies | copinau cerrig hindreuliedig/o gerrig mân |
balshag | persog bratiog |
bittie | tamaid bach |
brangel | menyw haerllug |
cackty | person llwfr (‘cachgi’) |
cack-handed | lletchwith, trwsgl |
cadge | crafu am arian/pethau |
chopsy | siarad gormod |
capswabble | celwydd, lol |
cobnobble | ceryddu, taro ar y pen |
cockalorum | wand a ddefnyddir gan swynwyr/iachawyr ffydd |
drapsy | person diog |
dicky | sâl, ansicr |
dimp | person syml, gwirionyn |
empting | arllwys y glaw |
en, un | ef, hwnna |
enough blue sky to make a pair of drawers | arwydd fod y tywydd yn clirio |
fantaddling | ffwdanu |
funkin | person angharedig |
furrable | person haerllug |
furren | estron, dramor |
scaddly pluck | sgramblo e.e. ar gyfer losin |
tammat | llwyth bach |
…a llawer iawn mwy, sy’n llawer rhy lliwgar i’r dudalen hon!
Mae ambell air wedi goroesi o’r dafodiaith Gymraeg hefyd, gan gynnwys:
Gair | Ystyr |
cardydwyn | person bach |
clegyr | carreg fawr |
cluster | bonclust |
heck / hercan | cloffi |
O’r Llychlynwyr
A fu’n trallodi’r ardal o’r nawfed ganrif i’r unfed ganrif ar ddeg, mae gennym:
Gair |
Ystyr |
sker | ffin cae |
haggard | ydlan |
hagglestone | cenllysg |
O ganlyniad i’r amser a dreuliodd y Fflemwyr yn Lloegr cyn cyrraedd Sir Benfro
A rhyng-briodi, dirywiodd eu hiaith yn gynnar. Ond, rydyn ni’n dal i glywed ambell air:
Gair |
Ystyr |
droppel | trothwy |
hadridge | mwstard gwyllt |
slop | bwlch yn y clawdd |
Ymhlith nifer o eiriau sydd â’u tarddiad yng Ngorllewin Lloegr, mae:
Gair |
Ystyr |
sker | glo bach |
evil | fforch gwellt |
drang | llwybr |
pill | culfach lanwol |
lake | nant |