Gwrandewch ar straeon ynglŷn â sut mae afonydd Cleddau wedi helpu i lunio tirwedd Sir Benfro a bywydau’r bobl sy'n byw gerllaw.
Maen nhw’n cofio’r gorffennol, yn dathlu’r presennol ac yn edrych ymlaen at fywyd ar y glannau hyn yn y dyfodol.
Recordiwyd y storiâu i gyd-fynd ag arddangosfa William Stott o Oldham, Le Passeur (Y Cychwr): Myfyrio ar dirlun yn Oriel y Parc.
Recordiwyd y mwyafrif ar leoliad, ar bwyntiau’r hen daith fferi ar afonydd y Cleddau.
Cliciwch y dolenni isod i wrando ar y recordiadau sy'n gysylltiedig â'r pwnc hwnnw
Teithiau’r Fferi a Chymeriadau
Gwrandewch ar atgofion personol am deithiau’r fferi, hanesion am y fferiwyr a stori o gymudo modern ar draws yr afon o Landshipping i Picton Point.
- A Modern Crossing
- Captain Arthur
- Croesiadau’r Daugleddau
- Lawrenny – horses and hounds
- Llangwm Crossings and Characters
- Memories of Grace Childs
- Pembroke Ferry
- Tom y Fferi
Diwydiant
Roedd yr afon ar un adeg yn brif ffordd fawr yn Sir Benfro, ac oherwydd hyn yn bennaf fe flodeuodd diwydiant.
Gwrandewch ar storiâu am gloddio am lo a thrasiedi, pysgod wragedd mentrus, ac adeiladu llongau.
Rhyfel
Cewch glywed am fywyd yn Lawrenny yn ystod blynyddoedd yr yr Ail Ryfel Byd.
Trasiedïau
Lle bo dŵr fe fydd trasiedi yn anorfod.
Gwrandewch ar storiâu trist y pysgotwyr, ac am y trychineb y lofa yn Landshipping. Daeth y trasiedi glofaol hwn â menywod yn gweithio fel glowyr a diboblogi gwledig i’r amlwg.
Plentyndod
Gwrandewch ar ffrindiau ifanc yn siarad am y rôl mae’r afon yn ei chwarae yn eu bywydau – yr hwyl, y gemau, y rhyddid a’r antur y mae’n eu cynnig iddynt.
Lle am Ysbrydoliaeth
Cyfeirir at yr afon Cleddau a’r aber yn aml fel y ddyfrffordd ddirgel’ – bant oddi wrth yr arfordir garw ac weithiau prysur, maen nhw’n werddon o heddwch a llonyddwch, yn gyfle i adfer yr enaid.
Mae’r golau cyfnewidiol a’r dŵr symudol yn cynnig ysbrydoliaeth i artistiaid, nid yn unig o ran y golygfeydd ehangach o’r dirwedd, ond hefyd y nodweddion llai megis y creigiau, gwreiddiau’r coed a’r patrymau ar y lan.
Iaith
Gwrandewch ar ffrindiau ifanc yn siarad am y rôl mae’r afon yn ei chwarae yn eu bywydau – yr hwyl, y gemau, y rhyddid a’r antur y mae’n eu cynnig iddynt.
Bywyd Gwyllt
Mae’r afonydd Cleddau yn hafan i fywyd gwyllt, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae adar gwyllt a rhydwyr yn mudo yma ar gyfer yr hinsawdd fwynach, ac fe allech chi fod yn lwcus i weld cymylau duon enfawr o ddrudwy swnllyd yn y cyfnos. Os ydych chi’n lwcus iawn fe allech chi hyd yn oed weld dwrgi! Neu fe allwch chi ymgolli’n llwyr yn sŵn yr afon.