Mae'r podlediad hwn yn rhoi cyfle i bobl o bob cwr o’r byd ddilyn olion traed pererinion hynafol a phrofi straeon, cyfrinachau a synau Capel Santes Non a’r Ffynnon Sanctaidd, lle tybir y cafodd nawddsant Cymru ei eni.
Mae Taith Gerdded Sain Santes Non, sydd wedi’i chreu gan yr awdur a’r darlledwr enwog o Gymru Horatio Clare, yn mynd â gwrandawyr ar daith ar gwch ac ar droed, gan ddatgelu tirwedd ysbrydoledig sy’n gorwedd rhwng y môr a Tyddewi, dinas leiaf Prydain.
Cliciwch ar y botwm chwarae isod i wrando neu cliciwch ar y ddolen i lawrlwytho Taith Gerdded Santes Non.
"Yng nghanol ein taith gerdded mae ffynnon sanctaidd y Santes Non...sydd wedi bod yn denu ymwelwyr ers 1,400 o flynyddoedd."
Mae’r daith sain hon yn seiliedig ar leisiau artistiaid, ffermwyr, haneswyr, cerddorion, morwyr ac awduron sy’n siarad am eu perthynas â Santes Non, y môr, y dirwedd, yr hanes, y chwedlau, y creadigrwydd a’r ymdeimlad ysbrydol sy’n perthyn i’r lle.
Mae’r awdur/darlledwr Laura Barton yn ymuno â Horatio, sy’n dod â phersbectif awdur a chwilfrydedd teithiwr i’r daith sain wrth iddynt gerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir i ymweld â Chapel Santes Non ar fore braf o haf.
Ceir cyfraniadau gan y capten llong Ffion Rees, yr awduron o Gymru Jon Gower a Brenig Davies, y cantorion Mike Chant, Roy Jones, Lis Cousens a Rudi Lloyd Benson, yr artistiaid Jackie Morris a Becky Lloyd, y ffermwyr Elspeth Cotton a Robert Davies, yr ysgolhaig Dean Sarah Rowland Jones, yr archaeolegydd morwrol Julian Whitewright a’r morwr Graham da Gama Howells.
Cafodd y daith sain ei recordio ym mis Awst 2021 ac mae ar gael i’w llwytho i lawr am ddim oddi ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Cafodd y daith sain ei hariannu gan Cysylltiadau Hynafol, prosiect sy’n adfywio’r cysylltiadau hynafol rhwng Gogledd Wexford yn Iwerddon a Gogledd Sir Benfro, yn ogystal ag Iwerddon a Chymru, er mwyn creu twristiaeth gynaliadwy yn y rhanbarthau hyn a rhyngddynt.
Mae Cysylltiadau Hynafol yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen Cydweithredu Cymru Iwerddon. Partneriaid y prosiect yw Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Wexford a Visit Wexford.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Cysylltiadau Hynafol, ewch i wefan Cysylltiadau Hynafol.