Sir Benfro yn yr Oes Haearn

Mae ein hetifeddiaeth o’r Oes Haearn wedi ei nodi’n glir ar dirwedd Sir Benfro. A hithau’n ardal sydd, i raddau helaeth, wedi dianc rhag datblygiadau’r oes fodern, mae Sir Benfro’n frith o feini hirion, bryngaerau, patrymau caeau ac olion tai crwn o’r Oes Haearn a chynhanes.

Mae ein hetifeddiaeth o’r Oes Haearn wedi ei nodi’n glir ar dirwedd Sir Benfro. A hithau’n ardal sydd, i raddau helaeth, wedi dianc rhag datblygiadau’r oes fodern, mae Sir Benfro’n frith o feini hirion, bryngaerau, patrymau caeau ac olion tai crwn o’r Oes Haearn a chynhanes.

Gellir gweld bryngaerau ar draws Mynyddoedd y Preseli, ond y mwyaf trawiadol yw Foel Drygarn yn ei holl ysblander.

Triangulation (trig) point named Foel Drygarn in the Preseli Hills, Pembrokeshire Coast National Park

Aneddiadau arfordirol

Ar hyd yr arfordir, fe fu pobl yn manteisio ar y clogwyni pentir. I sicrhau eu bod yn ddiogel rhag ymosodiadau tuag at y tir, codwyd banciau uchel, fel y rhai sydd i’w gweld yng Nghaer Crochan Flimston a Phenmaendewi, ble elwir y banc amddiffynnol yn Glawdd y Rhyfelwr (Warrior’s Dyke).

Ac eto, nid oedd y bobl hyn o’r Oes Haearn yn hollol ryfelgar. Fe fuon nhw’n trin y tir hefyd, gan feithrin cnydau a da byw. Ar Ynys Sgomer, parhawyd i ddefnyddio ffiniau’r caeau a sefydlwyd yn ystod yr Oes Haearn am ganrifoedd ar ôl hynny. Gellir gweld ysbrydion y tai crwn yn swatio dan gysgod y llethrau sy’n wynebu’r gwynt.

 

Profwch yr Oes Haearn

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn perchen a rheoli Fryngaer o’r Oes Haearn a ail-grewyd yng Nghastell Henllys ar gyrion Mynyddoedd y Preseli. Diolch i astudiaethau archeolegol, roedd modd adeiladu tai crwn ar olion traed yr adeiladau gwreiddiol.

Mae ymwelwyr yn gallu cael blas ar yr Oes Haearn, ac mae yna gyfle i ysgolion deithio yn ôl mewn amser i helpu i baratoi gwledd gyda’r hwyr a helpu adeiladu tŷ crwn. Ond, nid nepell i ffwrdd mae ochr dywyllach bywyd Celtaidd yn llechu, ac mae angen i’r plant fod yn barod i hyfforddi fel rhyfelwyr.

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol