Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn rhoi dyletswydd ar bob awdurdod priffyrdd i gyhoeddi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (ROWIP) ar gyfer eu hardal.
Y Cynllun Gwella yw’r brif ffordd y mae awdurdodau lleol yn nodi, blaenoriaethu a chynllunio ar gyfer gwelliannau i’w rhwydwaith hawliau tramwy lleol. Nod y Cynllun yw arwain datblygiad strategol y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus gyda gwelliannau i ddiwallu anghenion cerddwyr, beicwyr, marchogwyr a phobl anabl ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi modd i’r awdurdod priffyrdd weithio ar y cyd ag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol lle mae rhannau o ardal awdurdod lleol o fewn Parc Cenedlaethol.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Penfro i baratoi’r Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (ROWIP) ar gyfer Sir Benfro.