Corff statudol sy’n cynghori ar y broses o wella mynediad i gefn gwlad at ddibenion hamdden a mwynhad Cyflwyniad.
Mae Fforwm Mynediad Lleol Sir Benfro yn gorff statudol, a sefydlwyd ar y cyd gan Gyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn 2002, yn dilyn deddfwriaeth a rheoliadau a gyflwynwyd yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Roedd Sir Benfro yn un o’r gwledydd cyntaf yng Nghymru i sefydlu Fforwm.
Rôl y Fforwm
Swyddogaeth statudol y Fforwm yw cynghori’r Cyngor Sir, Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru, ynghylch gwella mynediad y cyhoedd i ardaloedd gwledig Sir Benfro, at ddiben hamdden awyr agored a mwynhad. Ers ei ffurfio’n gychwynnol, mae’r Fforwm wedi ystyried amrywiaeth eang o faterion wrth gynghori Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyngor Sir Penfro ar wella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad.
Mae gan y Fforwm gylch gwaith sylweddol, ac mae wedi cynghori ar bob math o fynediad i gefn gwlad, gan gynnwys ar droed, ar geffyl, ar feic a mynediad moduraidd oddi ar yr heol.
Aelodaeth y Fforwm
Mae’r fforwm yn cwrdd yn gyhoeddus bob chwarter, ac mae ei aelodaeth yn gytbwys er mwyn adlewyrchu pryderon ffermwyr lleol a rheolwyr tir, yn ogystal â buddiannau defnyddwyr hamdden yng nghefn gwlad.
Rhaid i’r awdurdodau sy’n penodi, sef Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol, sicrhau bod yna gydbwysedd rhesymol o aelodau, sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr hawliau tramwy cyhoeddus a pherchnogion, preswylwyr a rheolwyr yng nghefn gwlad. Fodd bynnag, mae aelodau’r Fforwm yn eistedd fel unigolion, yn hytrach na chynrychiolwyr unrhyw fudiad penodol. Rhaid i Fforymau Mynediad Lleol adolygu eu haelodaeth bob tair blynedd, ac ym mis Ionawr 2022 fe gamodd y Fforwm i mewn i’w saithfed tymor gyda’r ysgrifenyddiaeth yn symud at Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Gallwch gysylltu ag ysgrifennydd y fforwm drwy ebostio antr@pembrokeshirecoast.org.uk.
Penodir aelodau ar sail eu gallu, trwy wybodaeth a phrofiad, i gynrychioli buddiannau o leiaf un grŵp o ddefnyddwyr mynediad, rheolwyr tir neu faterion eraill sy’n berthnasol i fynediad, fel twristiaeth. Mae’r aelodaeth wedi ymrwymo i wella mynediad cyhoeddus.
Agendau/Cofnodion cyfarfodydd y Fforwm Mynediad Lleol
Gellir gofyn am gopïau o gofnodion ac agendau cyfarfodydd y Fforwm, trwy ebostio’r ysgrifennydd Anthony Richards antr@pembrokeshirecoast.org.uk.
Dyddiadau cyfarfodydd 2023
Cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm Mynediad Lleol yng Nghanolfan Cymuned Bloomfield, Arberth ar 5 Hydref 2023. Am fwy o wybodaeth ebostiwch yr ysgrifennydd Anthony Richards.
Gwaith y Fforwm Mynediad Lleol
- Yn ei rôl fel ymgynghorai statudol ar gyfer materion sy’n gysylltiedig â mynediad i gefn gwlad a hawliau tramwy cyhoeddus, mae’r Fforwm Mynediad Lleol wedi ymateb i lawer o ymgynghoriadau a strategaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
- Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar newidiadau deddfwriaethol ar gyfer rheoli mynediad cefn gwlad a hawliau tramwy cyhoeddus.
- Roedd y Fforwm ynghlwm â helpu datblygu’r Cod Cefn Gwlad diwygiedig, a chynigiodd sylwadau ar amrywiaeth o ganllawiau a rheoliadau ynghylch rheoli hawliau tramwy cyhoeddus a oedd yn codi o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
- Roedd y Fforwm yn tynnu sylw at y gwaith o fapio tir agored a thir comin, i baratoi ar gyfer lansio’r hawl mynediad newydd a gyflwynwyd gan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn 2005. Ymgynghorwyd â’r Awdurdod ar y broses fapio, a’r apeliadau, ac fe fu hefyd yn cynghori ar arwyddion a materion rheoli eraill yn ymwneud â Thir Mynediad.
- Mae’r Fforwm wedi chwarae rhan bwysig yn y broses o baratoi’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy statudol, y prif gyfrwng i awdurdodau lleol nodi gwelliannau i’w rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus, eu blaenoriaethu a chynllunio ar gyfer eu gwella.
- Mae’r fforwm wedi bod yn gweithio yn agos â diwygiadau parhaus Llywodraeth Cymru i ddeddfwriaeth mynediad a hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru.
- Mae materion eraill sydd wedi cael ystyriaeth yn cynnwys problemau gyda mynediad moduraidd anghyfreithlon i gefn gwlad a rheoli cŵn.
cysylltwch â Ysgrifennydd y Fforwm Mynediad Lleol
Mr Anthony Richards
Ysgrifennydd Fforwm Mynediad Sir Benfro